Clwb golff yn cipio gwobr amgylcheddol
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 22 Rhagfyr 2020
Mae Clwb Golff Y Pîl a Chynffig yn dathlu ar ôl ennill teitl Prosiect Amgylcheddol Rhagorol y Flwyddyn 2021 yn y Gwobrau Amgylcheddol Golff.
Mae’r clwb wedi derbyn cefnogaeth gan brosiect ‘Dune 2 Dunes’ Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn gynharach eleni dyfarnwyd ardystiad GEO iddo - gwobr rheolaeth amgylcheddol sy’n cydnabod cynaliadwyedd datblygedig mewn golff - am wneud cyfraniadau pwysig o ran diogelu natur, gwarchod adnoddau a chryfhau cymunedau.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r clwb wedi gweithio gyda’r cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a pherchnogion tir, ffermwyr a chlybiau golff lleol eraill er mwyn adfer a gwella’r dirwedd twyni o bwysigrwydd rhyngwladol ar hyd morlin Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig (NNR).
Mae’r tîm sy’n gofalu am y cwrs golff, o dan arweiniad Paul Johnson, wedi creu naw tywyn tywod a thri thwyn llac mewn ardaloedd a arferai fod yn llawn prysgwydd, rhedyn a gweiriau geirwon i greu cynefinoedd newydd, pwysig o fewn y cwrs golff.
Mae hyn wedi rhoi hwb i fioamrywiaeth, gan reoli’r glaswelltir a’r cynefinoedd twyni llac i annog rhywogaethau blodau gwyllt pwysig gan gynnwys prysgwydd briwydd, drewgoed a thamaid y cythraul. Mae’r planhigion hyn yn bwysig i beillwyr ac yn denu gloÿnnod byw glas, porthor a gloÿnnod bach glas.
Mae’r arolygu gan y prosiect Dunes 2 Dunes hefyd wedi adnabod ffyngau cap cwyr, piben y ddôl ac ehedydd.
Llongyfarchiadau i Glwb Golff Y Pîl a Chynffig am ennill y wobr drawiadol hon.
Mae ein prosiect Dunes 2 Dunes yn gydweithrediad i reoli arfordir Pen-y-bont ar Ogwr mewn modd cynaliadwy. Mae twyni tywod yn dirweddau gwyllt, eiconig gyda phoeth-fannau bioamrywiaeth lle mae tegeirianau yn parhau i oroesi ochr yn ochr ag adar canu, gloÿnnod byw ac amrywiaeth eang o bryfed sydd mewn perygl.
Mae'r clwb wedi gweithio’n galed i gyfathrebu ei ymdrechion o fewn y gymuned ehangach, gan ymgysylltu â gwirfoddolwyr a disgyblion ysgol i ddangos iddynt fod cyrsiau golff yn cynnwys cynefinoedd hynod bwysig.
Aelod cabinet dros addysg ac adfywio, Charles Smith
Dywedodd Simon Hopkin, rheolwr Clwb Golff Y Pîl a Chynffig: “Diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn enwedig i Mark Blackmore a arweiniodd y Prosiect Dunes 2 Dunes ar gyfer y gwaith gwych maent wedi ei wneud i’n helpu ni i gyflawni’r wobr genedlaethol hon.
“Mae’r gwaith wedi cael croeso mor arbennig gan aelodau nes ein bod yn cynllunio creu mwy o dwyni ochr yn ochr ag ardaloedd blodau gwyllt naturiol a glannau gwenyn fel rhan o’n cynllun rheolaeth ecolegol parhaus.”
Am unrhyw ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â chanolfan cyswllt cwsmeriaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
09:00 to 17:00 Dydd Llun i Ddydd Iau;
09:00 to 16:30 Dydd Gwener.