Clinigau brechu Covid-19 galw heibio
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 23 Mehefin 2021
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cynnal clinigau galw heibio i bobl nad ydynt eto wedi manteisio ar y cynnig o frechlyn Covid-19.
Mae'r clinigau galw heibio yn golygu nad oes angen apwyntiad arnoch a gallwch ddod draw ar ddiwrnod sy’n addas chi, ar adeg sy'n addas i chi, a derbyn eich dos cyntaf.
Mae system galw heibio’r wythnos hon ar gyfer unrhyw oedolyn sy'n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful neu Rondda Cynon Taf nad ydynt wedi cael eu dos cyntaf eto.
Mae'r clinigau'n cael eu cynnal yng nghanolfan frechu gymunedol Aberpennar yng Nghanolfan Bowlio Dan Do Cwm Cynon yn Rhondda Cynon Taf.
Dydd Iau yma (24 Mehefin) a dydd Gwener (25 Mehefin) mae'r slotiau galw heibio ar gael rhwng 9.30am a 12.30pm ac yna rhwng 1.15pm a 3.30pm.
Mae tua 87 y cant o oedolion cymwys wedi cael eu dos cyntaf, ac mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 58 y cant wedi cael y ddau ddos ac wedi cael eu brechu'n llawn.
Dywedodd Dr Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: "Er ein bod yn falch iawn bod cymaint o bobl wedi manteisio ar ein cynnig o frechlyn, rydym yn parhau i fod yn gwbl benderfynol na fydd neb yn cael ei adael ar ôl.
"Rhan o hynny yw ceisio gwneud yr holl broses mor hawdd â phosibl, a dyna yw nod y clinigau galw heibio.
"Bydd rhai pobl nad oeddent yn siŵr am gael y brechiad pan gawsant eu cynnig am y tro cyntaf, ond sydd bellach wedi newid eu meddwl.
"Mae hynny'n newyddion da a bydd ein timau wrth eu bodd yn eich gweld chi ac mae'r system galw heibio’n golygu y gallwch fod i mewn ac allan heb fawr o drafferth."
Bydd apwyntiadau ail ddos yn rhedeg ochr yn ochr â'r system galw heibio ac yn dibynnu ar y cyflenwad o frechiadau, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ceisio rhoi ail ddosau yn gynt lle bynnag y bo modd.
Ychwanegodd Dr Kelechi Nnoaham: "Ni allwn guddio rhag y ffaith ein bod unwaith eto'n wynebu sefyllfa ddifrifol oherwydd lledaeniad yr amrywiolyn delta.
"Mae'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn awgrymu'n gryf bod dau ddos o'r brechlyn yn helpu i leihau'r risg o fynd i'r ysbyty, a dyma pam ei bod mor bwysig bod pobl yn cael y ddau ddos i gael eich brechu'n llawn.
"Rydym i gyd wedi colli cymaint ers dechrau'r pandemig hwn, ac rwyf wir yn credu mai cael eich brechu yw'r ffordd orau i ail-ddechrau bywyd eto."
Os ydych chi'n oedolyn sydd heb gael eich dos cyntaf o’r brechlyn eto, yna mae'r clinigau brechu galw heibio newydd hyn yn eich galluogi i ddod ar y diwrnod heb fod angen trefnu apwyntiad.
Dywedodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David
Os nad ydych am gerdded i mewn ac y byddai'n well gennych drefnu apwyntiad, gall unrhyw un dros 18 oed nad ydynt wedi cael eu dos cyntaf drefnu apwyntiad yn un o'n canolfannau brechu cymunedol ar draws Cwm Taf Morgannwg. Ffoniwch 01443 281163 a dewiswch opsiwn tri neu fel arall ewch i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a llenwch y ffurflen dos gyntaf: Gwybodaeth am Frechiad COVID-19 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg