Cist Gymunedol yn ehangu cyfleoedd chwaraeon
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 22 Ionawr 2019
Bydd elusen o Faesteg yn cynnig y gamp Paralympaidd boccia i bobl ifanc leol ag anawsterau dysgu yn fuan, ar ôl cael grant o £1,500 gan y Gist Gymunedol.
Bydd ‘Every Link Counts’ yn defnyddio'r grant i brynu'r offer sydd eu hangen i sefydlu clwb boccia newydd, fel y gall pobl ifanc brofi'r gêm, sy'n debyg i pétanque a bowliau.
Menter sy'n cael ei hariannu gan Chwaraeon Cymru yw cynllun grantiau'r Gist Gymunedol, a chaiff ei rhedeg yn lleol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a'i chytuno gan banel o wirfoddolwyr. Mae grantiau o hyd at £1,500 ar gael er mwyn i glybiau, sefydliadau a grwpiau chwaraeon helpu mwy o bobl i ddod yn fwy egnïol, yn fwy aml.
Mae 14 o glybiau, sefydliadau a grwpiau wedi derbyn cyfran o bron i £18,000 yn rownd ddiweddaraf y grantiau, ac mae 'Every Link Counts' yn un o chwech sydd wedi elwa ar y dyfarniad mwyaf o £1,500.
Ymhlith y rhai eraill sydd hefyd wedi'u cefnogi mae Clwb Canŵio Maesteg a Chlwb Canŵio Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n ceisio rhwyfo'u ffordd i fwy o gyfleoedd i bobl ymgymryd â'u chwaraeon. Bydd clwb Maesteg yn defnyddio'u harian i brynu caiacau sydd wedi'u gwneud yn benodol i rwyfwyr iau ac aelodau ag anableddau, a bydd clwb Pen-y-bont ar Ogwr yn gwario eu grant i hyfforddi hyfforddwyr ychwanegol er mwyn darparu ar gyfer yr aelodau newydd y maen nhw wedi'u denu'n ddiweddar.
Mae'r clybiau eraill sydd wedi derbyn grantiau'r Gist Gymunedol fel a ganlyn: Clwb Rygbi a Phêl-droed Mini ac Iau Athletwyr Pen-y-bont ar Ogwr, Clwb Pêl-droed Tondu United, Taekwando Cymru Pen-y-bont ar Ogwr, Clwb Rygbi a Phêl-droed Nantyffyllon, Aim 2 Tri, Rhedwyr Porthcawl, Yellow Wales, Pencoed Panthers, Rhedwyr Phoenix Aberogwr, Clwb Nofio Sir Pen-y-bont ar Ogwr, a Chlwb Tennis Bwrdd Pen-y-bont ar Ogwr.
Ers y mileniwm, mae cynllun y Gist Gymunedol wedi buddsoddi ymhell dros filiwn o bunnau mewn chwaraeon lleol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan helpu i ddarparu'r offer mae ei angen i sefydlu clybiau newydd a hyfforddi gwirfoddolwyr sy'n sylfaen i chwaraeon cymunedol.
Mae'r panel bob amser yn arbennig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan glybiau, sefydliadau a grwpiau sydd eisiau creu cyfleoedd chwaraeon mwy cynhwysol, sy'n cefnogi pobl ag anableddau, menywod a merched a chymunedau difreintiedig hefyd.
Hoffwn atgoffa’r holl glybiau, sefydliadau a grwpiau lleol os oes ganddynt syniad ar gyfer creu cyfleoedd chwaraeon newydd ond bod angen help llaw arnynt i’w wireddu, yna mae'r Gist Gymunedol yno ar eich cyfer. Mae gan bob clwb, sefydliad neu grŵp yr hawl i wneud cais am grant gwerth hyd at £1,500 bob blwyddyn.
Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Am ragor o wybodaeth am gynllun y Gist Gymunedol, ewch i wefan Chwaraeon Cymru neu gallwch gysylltu ag Andrew Jones drwy ffonio 01656 642745 neu e-bostio andrew.jones2@bridgend.gov.uk