Ci therapi yn ymweld â grŵp darllen ysgol gynradd
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 11 Ionawr 2022
Yn ddiweddar, cafodd disgyblion yn Ysgol Gynradd Penybont wledd wrth i gi therapi ymweld â’u grŵp darllen.
Ymunodd y ci defaid Rylie, sydd wedi’i hyfforddi’n arbennig i gysuro, â gwers disgyblion Blwyddyn Dau fel rhan o fenter i gyflwyno gweithdai ac addysg o amgylch gofal a lles anifeiliaid.
Credir bod presenoldeb cysurlon ac anfarnol cŵn therapi yn magu hyder plant i ddarllen yn uchel ac yn ennyn mwy o frwdfrydedd at y gwersi, sydd yn ei dro yn cael effaith gadarnhaol ar eu cynnydd a’u datblygiad mewn llythrennedd.
Roedd disgyblion Ysgol Gynradd Penybont wrth eu bodd yn cael Rylie yn ymuno â nhw ac yn teimlo wedi ymlacio fwy yn ystod y wers maeddan nhw gyda’r pwysau wedi’i dynnu oddi ar eu darllen oherwydd presenoldeb y ci.
Mae’r fenter gymdeithasol Because Animals Are Worthwhile wedi partneru gyda Cariad Pet Therapy a'r hwb cydweithio Canolfan Arloesi Menter Cymru, i gyflwyno’r cynllun ac mae cynlluniau ar gyfer gweithgareddau pellach mewn ysgolion ar draws de Cymru sy’n ymroi i adael i blant ddod yn fwy cyfforddus o gwmpas anifeiliaid, eu dysgu sut i ofalu amdanynt yn iawn a chefnogi cyfrifoldeb pan mae’n fater o ddod yn berchennog anifail anwes.
Mae hi bob amser yn fuddiol darparu amrywiaeth i drefn plant ac roedd cael croesawu Chloe a Cariad Pet Therapy yn y sesiwn darllen yma yn ffordd wych o ddod â chyffro i’r dosbarth arferol.
Roedd y plant yn cael eu cefnogi drwy’r amser ac roedd rhyddid iddynt fynd cyn agosed i Rylie ac roeddynt yn dymuno. Roeddynt yn llawn brwdfrydedd wrth roi adborth ac maen nhw’n gofyn pryd y bydd diwrnod arall gyda’r cŵn therapi yn barod.
Edrychwn ymlaen at groesawu’r tim yn ôl eto am fwy o sesiynau!
Robbie Owen, Pennaeth Ysgol Gynradd Penybont
Dywedodd un o Gynghorwyr Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio:
Mae'n bleser gweld bod y cynllun hwn wedi cael effaith mor gadarnhaol ar y disgyblion a’i fod yn eu helpu nhw gyda’u cynnydd a’u datblygiad llythrennedd.
Mae’n werthfawr i blant ddod yn gyfarwydd ag anifeiliaid a’r gofal y maent ei angen o oed cynnar.
Mae’r adborth ardderchog o’r amrywiol sesiynau yn arwydd gwych fod mwy o bobl yn darganfod yr effaith anhygoel y gall anifeiliaid ei chael ar iechyd meddwl.
Un o Gynghorwyr Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio