Chwilio am gartref newydd i siandelïers Neuadd y Dref Maesteg
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 16 Gorffennaf 2021
Mae chwe siandelïer o Neuadd y Dref Maesteg yn chwilio am gartref newydd fel rhan o'r gwaith ailddatblygu sy'n cael ei wneud ar yr adeilad hanesyddol.
Cafodd y siandelïers pres a gwydr eu gosod yn y brif neuadd yn ystod y 1970au a bellach maent yn cael eu cynnig i grwpiau cymunedol neu unrhyw un a allai roi defnydd iddynt.
Nid yw'r siandelïers yn rhan o statws yr adeilad rhestredig ac nid ydynt yn rhan o'r gwaith atgyweirio, adfer ac estyniad gwerth £8.2m yn Neuadd y Dref Maesteg. Er mwyn cyflawni'r lefelau golau cywir yn y brif neuadd, bydd goleuadau modern, newydd yn cymryd lle'r siandelïers.
Noder, mae'r goleuadau yn gain dros ben, yn enwedig y powlenni gwydr ac mae'n debygol y bydd angen gosod cysylltiadau trydanol newydd arnynt. Gall unrhyw un sydd eisiau gwneud ymholiad ynghylch y siandelïers anfon e-bost i regeneration@bridgend.gov.uk.
Bydd yr ailddatblygiad yn gweld yr adeilad rhestredig Gradd II yn cael ei adfer i'w hen ogoniant a'i estynnu ar un ochr gydag atriwm gwydr newydd, theatr stiwdio a sinema, caffi a bar mesanîn, a llyfrgell fodern.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen a nifer o gyllidwyr allweddol ar y prosiect, sy'n un o'r buddsoddiadau mwyaf ym Maesteg ers degawdau.
Bydd yr ailddatblygiad yn gweld yr awditoriwm hanesyddol yn cael ei adfer, to newydd ac ychwanegu cyfleusterau modern i berfformwyr, cyfranogwyr a chynulleidfaoedd.
Mae'r gwaith yn cael ei gwblhau gan gontractwyr arbenigol, Knox and Wells, sydd wedi bod ynghlwm ag ystod o brosiectau treftadaeth yn ne Cymru, megis adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd.
Bydd y llyfrgell fodern hefyd yn cynnwys ardaloedd cyfarfod ffurfiol ac anffurfiol, gan ddarparu ardaloedd newydd i bobl ymlacio a mwynhau ystod o weithgareddau sy'n mynd i'r afael ag unigedd cymdeithasol, gwella llythrennedd digidol, a dysgu mwy am hanes a threftadaeth Cwm Llyfni.
Bydd hygyrchedd yn cael ei wella'n syfrdanol ar draws y lleoliad a fydd yn cynnwys cyfleuster toiled llawn Changing Places.
Gobeithiwn y bydd y siandelïers hyn yn mynd i ddwylo rhywun a fydd yn gallu eu hadfer i'w gogoniant blaenorol a bod yn falch o fod yn berchen ar ran mor bwysig o dreftadaeth Maesteg.
Mae gwaith adeiladu ar y lleoliad hynod boblogaidd hwn yn achlysur hanesyddol i Faesteg. Mae cryn dipyn o waith wedi'i gwblhau i gyrraedd y cam hwn lle gellir trawsnewid adeilad hŷn yn lleoliad hyfryd a fydd yn addas am genedlaethau i ddod.
Rydym yn edrych ymlaen at ei ailagor unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau'r haf nesaf, a chael croesawu'n ôl yr holl grwpiau cymunedol sy'n ei ddefnyddio. Nid yn unig y bydd yn gweithredu fel canolfan ddiwylliannol a phwynt ffocws i dref Maesteg, ond bydd hefyd yn atyniad strategol i dwristiaid ar gyfer y sir a'r rhanbarth cyfan.
Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio
Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, cyllid adfywio Llywodraeth Cymru, Tasglu'r Cymoedd, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cyngor Tref Maesteg, y Sefydliad Garfield Weston a'r Ymddiriedolaeth Davies.
Gallwch ddilyn cynnydd yr ailddatblygiad ar wefan neuadd y dref Maesteg neu eu tudalen Facebook.