Cerbydau gwastraff ac ailgylchu i leihau allyriadau co2 o 90 y cant
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 19 Hydref 2022
Mae contractwr gwastraff ac ailgylchu Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Kier, bellach yn defnyddio 40 o gerbydau sy'n gweithio gyda thanwydd Olew Llysiau Hydrogenaidd (HVO) , a fydd yn cynorthwyo i leihau allyriadau co2 o 90 y cant.
Mae hyn yn unol â Strategaeth Garbon Sero Net 2030 Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a chredir drwy newid i ddull tanwydd amgenach, megis Olew Llysiau Hydrogenaidd, y gallai'r gwasanaeth leihau allyriadau CO2 oddeutu 800 tunnell y flwyddyn.
Byddai hyn yn cynrychioli gostyngiad carbon 90 y cant o ôl-troed carbon presennol, sy'n deillio o weithrediadau gwastraff ac ailgylchu.
Mae'r cyngor a Kier wedi cytuno i rannu'r costau ychwanegol ar gyfer rhoi'r fenter newydd ar waith, sy'n cynrychioli newid cadarnhaol iawn ar gost gymharol isel.
Mae'n galonogol gweld Kier yn chwilio am ffyrdd i wneud eu gweithredu mor gynaliadwy â phosib ar gyfer yr amgylchedd.
Rydym yn cydnabod mai'r budd amgylcheddol mwyaf, tymor canolig a hir, wrth gyflwyno'r fflyd newydd hon fydd newid i ddefnyddio cerbydau allyriadau isel iawn sy'n cael eu pweru gan drydan, neu hydrogen, nad ydynt yn cynhyrchu allyriadau wrth eu defnyddio, a byddai canlyniad hynny'n aruthrol.
Pan fydd y cerbydau hyn yn cael eu pweru gan gyflenwad ynni adnewyddadwy, byddant yn cynrychioli'r dull mwyaf glân o gasglu gwastraff a gwastraff ailgylchu. "Byddwn yn ystyried amrywiaeth o opsiynau wrth fynd ymlaen, a fydd yn helpu i leihau ein hôl-troed carbon, yn ogystal â bod yn effeithiol o ran costau i'w rhoi ar waith.
Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd John Spanswick