Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ceisio barn ar y camau diweddaraf i adfywio glannau’r dŵr

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ceisio barn ar gynigion a fydd yn cefnogi camau nesaf ei gynlluniau adfywio parhaus ym Mhorthcawl.

Hoffai’r cyngor ddiwygio’r dynodiad ar gyfer sut gellid defnyddio bron 20 hectar o dir yn ardal Sandy Bay a Pharc Griffin i gyflawni adfywiad ardal glannau’r dŵr ym Mhorthcawl yn unol â’r Cynllun Datblygu Lleol a’r Strategaeth Creu Lleoedd a gafodd ei chymeradwyo yn ddiweddar.

I hwyluso hyn, cyn bo hir bydd y cyngor yn cyhoeddi hysbysiad o fwriad yn amlinellu sut mae’n bwriadu defnyddio’r tir, ac ystyried unrhyw sylwadau a all ddod i law cyn gwneud penderfyniad.  

Dan gynlluniau’r cyngor, bydd y safle sy’n cynnwys y parc adloniant, yn dod ar gael ar gyfer datblygiad aml-ddefnydd gan gynnwys cyfleoedd manwerthu, masnachol, hamdden, tai ac adloniant newydd sbon.

I gefnogi’r datblygiad aml-ddefnydd, byddai ffordd gerbydol newydd yn cael ei hadeiladu a byddai’r safle hefyd yn cynnwys ysgol newydd neu gyfleusterau addysgol ychwanegol. Byddai Parc Griffin yn cael ei ymestyn, y mannau agored yn cael eu gwella ac oddeutu 900 o dai yn cael eu hadeiladu. Byddai cyfleusterau yno hefyd ar gyfer busnesau newydd ac ymwelwyr.

Bydd hysbysiadau yn rhoi gwybod i bobl am y cynnig yn cael eu gosod ar y safle ddydd Llun 6 Mehefin, yn ogystal â chyhoeddusrwydd arall, a bydd yr holl sylwadau a fydd yn dod i law yn cael eu hadrodd i’r Cabinet cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Gallwch weld y cynlluniau ar-lein drwy fynd i’r dudalen ymgynghoriadau <http://dudalen ymgyngoriadau> ar www.bridgend.gov.uk <http://www.bridgend.gov.uk>/cy.

Fel arall, gallwch fynd i Lyfrgell Porthcawl yn Church Place (CF36 3AG) rhwng 9.15am-6pm ddydd Llun, 9.15am-5pm ddydd Mawrth, 9.15am-1pm ddydd Mercher a 9.15am-5pm ddydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn.

Sylwch fod y llyfrgell ar gau dros ginio rhwng 1-2pm, ac ni fydd ar agor ar ddydd Sul.

Mae’r adfeddiant arfaethedig yn cynrychioli cam cyffrous a phwysig o ran datgloi potensial ardal glannau’r dŵr, ac yn ffurfio rhan hanfodol o’n cynlluniau adfywio cyffredinol parhaus ym Mhorthcawl. Diffiniad adfeddiant yw proses gyfreithiol ffurfiol sy’n galluogi i dir gael ei drosglwyddo o un defnydd i’r llall at ddibenion cynllunio.

Yn flaenorol, cytunodd y Cabinet mewn egwyddor i adfeddiannu’r tir hwn at ddefnydd amgen er mwyn cyflawni ei lawn botensial, felly rwy’n falch o weld fod y cynlluniau adfywio yn symud ymlaen a’n bod bellach mewn sefyllfa i fwrw ymlaen yn hyn o beth.

Gan ein bod hefyd eisiau parhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid a’n preswylwyr lleol i gyflawni hyn er budd y gymuned gyfan, rwy’n gobeithio y bydd pobl yn edrych yn fanwl ar y cynlluniau ac yn manteisio’n llawn ar y cyfle hwn i gael dweud eu dweud am y cynigion.

Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio

Chwilio A i Y