Ceisio barn ar ddyfodol addysg ôl-16
Poster information
Posted on: Dydd Llun 09 Rhagfyr 2019
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gofyn i drigolion lleol beth yw eu barn am gynigion a fydd yn newid sut bydd addysg ôl-16 yn cael ei ddarparu yn y dyfodol.
Mae adolygiad cam pedwar parhaus yr awdurdod i addysg ôl-16 yn amlinellu nifer o opsiynau posib sy’n amrywio o gau ambell chweched dosbarth ac uno rhai eraill, i greu rhai newydd mewn lleoliadau fel canol tref Pen-y-bont ar Ogwr a champws Pencoed Coleg Penybont.
Gan fod sawl chweched dosbarth yn y fwrdeistref sirol yn rhy fach i fod yn ariannol hyfyw, a hynny’n arwain at lai o ddewis o bynciau, mae’r cynigion diweddaraf yn ystyried yr adborth a gafwyd yn ystod camau blaenorol yr adolygiad hefyd.
Mae'r cyngor yn dymuno newid hyn drwy greu canolfannau sy’n cynnwys lle i 250 o fyfyrwyr o leiaf, er mwyn sicrhau bod digon o ddysgwyr i ddarparu cwricwlwm eang a gwarchod parhad pynciau lleiafrifol fel ieithoedd modern a defnyddio adnoddau’n fwy effeithlon.
Mae tri opsiwn wedi cael ei ddatblygu:
- Cymysgedd o chweched dosbarth mewn ysgolion gyda rhywfaint o uno i greu canolfannau chweched dosbarth newydd a gynhelir gan yr awdurdod lleol, gan gynnwys canolfan ragoriaeth ôl-16 newydd.
- Cymysgedd o chweched dosbarth mewn ysgolion gyda rhywfaint o uno i greu canolfannau chweched dosbarth newydd yn cael eu llywodraethu gan Goleg AB, gan gynnwys adeilad newydd yng nghanol y dref.
- Cadw’r chweched dosbarth ym mhob ysgol, ond gyda rhagor o ddatblygiadau er mwyn gwella darpariaeth yr opsiwn hwn, fel rhagor o ddysgu ar-lein.
Mae’r cynigion yn cynnwys trefniadau ar wahân ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg ac ysgolion ffydd.
Disgwylir y bydd y darpariaethau chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Porthcawl ac Ysgol Gyfun Bryntirion yn cyrraedd y meincnod o 250 o fyfyrwyr yn ystod y deng mlynedd nesaf, ond mae pob chweched dosbarth yn yr ysgolion eraill yn is o lawer na’r ffigur hwn. Mae’r sefyllfa hon yn arwain at lai o adnoddau a llai o ddarpariaeth ar gyfer rhai pynciau, sy’n golygu bod myfyrwyr yn gorfod teithio rhwng gwahanol ysgolion er mwyn astudio’r pynciau o’u dewis mewn rhai achosion.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn falch o’i enw da yn buddsoddi mewn addysg leol, ac rydyn ni am i bob myfyriwr gael y cyfleoedd gorau un. Oherwydd y pwysau ariannol y mae’r awdurdod lleol, ysgolion uwchradd a Choleg Penybont yn ei wynebu, rhaid i ni weithio mewn partneriaeth glos i sicrhau ein bod ni’n defnyddio ein hadnoddau yn y ffordd fwyaf effeithiol bosib.
Mae’r cynigion sydd gennym ar gyfer gwneud hyn yn rhai mentrus a chreadigol, ac rwy’n gobeithio y bydd pobl yn manteisio’n llawn ar y cyfle hwn i ddweud eu dweud a helpu i lunio ein cynlluniau ar gyfer sut mae addysg ôl-16 yn cael ei ddarparu yn y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio
Bydd cyfres o weithdai ymgynghori’n cael eu cynnal yn y flwyddyn newydd, a bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 21 Chwefror 2020.
I gael rhagor o wybodaeth ar sut gallwch chi gymryd rhan, ewch i’r dudalen ymgynghori yn www.bridgend.gov.uk/ymgynghoriadau, ffoniwch (01656) 643664 neu anfonwch e-bost at consultation@bridgend.gov.uk