Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ceisiadau nawr ar agor ar gyfer Cronfa Adfer Cymunedol y DU

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr nawr yn derbyn ceisiadau ar gyfer Cronfa Adfer Cymunedol y DU, cynllun gwerth £220 miliwn i fuddsoddi mewn ardaloedd lleol ledled y sir.

Nod y gronfa yw cefnogi pobl a chymunedau mwyaf anghenus, gan greu cyfleoedd i dreialu dulliau newydd a syniadau arloesol ar lefel leol.

Er nad yw bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ei chynnwys yn y 100 lle o flaenoriaeth, mae ceisiadau hyd at £3miliwn yn parhau i gael eu croesawu ar gyfer yr ardal.

Wedi’i ddarparu gan Lywodraeth Cymru, rhaid i brosiectau ddarparu gweithgaredd sy’n berthnasol i un o bedwar maes blaenoriaeth:
• Buddsoddi mewn sgiliau
• Buddsoddi mewn busnesau lleol
• Buddsoddi mewn cymunedau a lleoedd
• Cefnogi pobl i gyflogaeth

Anogir ceisiadau o bob rhan o fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, er bydd prosiectau’n sgorio’n uwch os ydynt yn unol â’n blaenoriaethau lleol fel y nodwyd yng Nghynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr.

Am wybodaeth ynghylch sut i ymgeisio, ewch i wefan yr awdurdod lleol. Rhaid derbyn ceisiadau erbyn y dyddiad cau, sef 7am ar ddydd Llun 24 Mai.

Bydd y cyngor wedyn yn cyflwyno rhestr flaenoriaeth o gynigion ar gyfer y fwrdeistref sirol i Lywodraeth y DU eu hasesu cyn cadarnhau'r prosiectau llwyddiannus ddiwedd mis Gorffennaf. Rhaid cyflwyno’r rhain erbyn 31 Mawrth, 2022.

Gall buddsoddi mewn sgiliau gynnwys hyfforddiant sy’n seiliedig ar waith, ail-hyfforddi, uwchsgilio neu ail-sgilio aelodau o’r gweithlu neu hyrwyddo datblygiad sgiliau a chynhwysiant digidol.

Mae enghreifftiau o fuddsoddi mewn busnes lleol yn cynnwys helpu i greu mwy o gyfleoedd swyddi ar gyfer gweithwyr newydd neu bresennol, annog busnesau i ddatblygu eu potensial arloesol a chefnogi mesurau datgarboneiddio.

Gall buddsoddi mewn cymunedau a lleoedd gynnwys astudiaethau dichonoldeb ar gyfer cyflwyno prosiectau sero-net ac ynni lleol, archwilio cyfleoedd i hyrwyddo datblygiad cymunedol ac adfywiad wedi’i lywio gan ddiwylliant, gwella ardaloedd gwyrdd a chadw asedau lleol pwysig neu hyrwyddo cysylltedd gwledig.

Gall cefnogi pobl i gyflogaeth gynnwys helpu unigolion i ymgysylltu â gwasanaethau lleol sydd ar gael yn yr ardal hon, nodi a chyfeirio at rwystrau posibl at gyflogaeth, codi dyheadau swyddi, cymorth i ennill sgiliau sylfaenol neu werthuso dulliau llwyddiannus i helpu pobl ddychwelyd i’r gwaith.

Mae’r gronfa yn rhagflaenydd i Gronfa Ffyniant a Rennir y DU, a fydd yn cael ei lansio yn 2022 i adleoli Cronfeydd Strwythurol yr UE. 

Gan fod 90 y cant o’r cyllid sydd ar gael drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU yn gyllid refeniw, ac ar gael yn ystod y flwyddyn ariannol hon yn unig, dylai prosiectau fod ar sail refeniw’n bennaf neu’n gyfan gwbl.

Ni fydd prosiectau sy’n canolbwyntio’n bennaf ar waith adeiladu neu adnewyddiadau sylweddol i adeiladau, prynu tir neu brynu offer mawr yn cael eu cefnogi.

Bydd gweminar i helpu gyda’r broses ymgeisio yn cael ei chynnal ar 28 Ebrill rhwng 4pm a 4.30pm. Bydd yn cynnig trosolwg o’r cyllid, meini prawf a manylion ynghylch sut i wneud cais ar gyfer y gronfa. Cofrestrwch ar gyfer y weminar rhad ac am ddim drwy e-bostio bridgendcrf@bridgend.gov.uk 

Rhaid cyflwyno cynigion gan ddefnyddio Ffurflen Gais Adnewyddu Cymunedol y DU ac yna ei hanfon at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost hwn: bridgendcrf@bridgend.gov.uk

Mae Cronfa Adfer Cymunedol y DU yn broses gystadleuol ac ni fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth y DU yn cynnal trafodaethau gyda chynigwyr. Fodd bynnag, gallwch anfon cwestiynau drwy bridgendcrf@bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y