Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ceisiadau ardrethi busnes wedi cyrraedd hanner ffordd

Mae bron hanner yr holl fusnesau cymwys ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymateb i lythyr gan y cyngor yn dweud wrthynt y gallent elwa o ryddhad ardrethi busnes.

Ers i’r llythyron gael eu hanfon at 706 o drethdalwyr cymwys y mis diwethaf, mae’r cyngor wedi cael 373 o ymatebion a, hyd yma, mae rhyddhad Ardrethi'r Stryd Fawr wedi cael ei ddyfarnu i 340 ohonynt.

Mae tri math o ryddhad ardrethi busnes ar gael i gefnogi busnesau lleol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach ar gael i eiddo cymwys sydd â gwerth trethadwy o lai na £6,000, ac mae eiddo fel swyddfeydd post neu gyfleusterau gofal plant cofrestredig hefyd yn gymwys i gael rhyddhad ychwanegol.

Mae Rhyddhad Ardrethi Trosiannol yn cynorthwyo busnesau yr effeithiodd yr ailbrisio ar ardrethi busnes arnynt yn 2017, ac mae Rhyddhad Ardrethu’r Stryd Fawr a Manwerthu wedi’i dargedu at fusnesau a manwerthwyr y stryd fawr yng Nghymru, megis siopau, tafarnau, tai bwyta a chaffis.

Mae unrhyw geisiadau am Ryddhad Ardrethu’r Stryd Fawr a Manwerthu sydd heb eu prosesu eto i fod i gael eu cwblhau erbyn diwedd mis Mehefin, a bydd llythyron a ffurflenni cais pellach yn cael eu hanfon at unrhyw fusnes cymwys nad yw wedi ymateb eto.

Eleni, mae cynllun rhyddhad ardrethi newydd, gwell, sy’n darparu hyd at £2,500 i fusnesau cymwys, yn cael ei gyflwyno ac mae’n help mawr. Mae'r cynllun newydd hefyd yn cwmpasu sefyllfaoedd lle mae deiliad eiddo yn symud allan ac un newydd yn symud i mewn. Pan fydd deiliad newydd yn ymgymryd ag eiddo cymwys, bydd yn awtomatig yn cael ffurflen cais am ryddhad ardrethi a fydd yn galluogi’r cyngor i gyfeirio help tuag at fusnesau newydd.

Er mwyn sicrhau bod y wybodaeth sydd gennym am eiddo cymwys yn gywir a chyfredol, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn prosesu ac yn dyfarnu rhyddhad ardrethi busnes ar sail gwneud cais.

Yn ogystal ag anfon llythyron allan, mae ffurflenni cais ar gael hefyd ar wefan y cyngor i’w gwneud yn haws i fusnesau wneud cais am y rhyddhad. Rwy’n gobeithio y bydd pob busnes cymwys nad yw wedi dychwelyd cais eto yn manteisio’n llawn ar y cynllun.

Dirprwy Arweinydd, Hywel Williams

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r dudalen Ardrethi busnes.

Chwilio A i Y