Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cefnogi pobl ddigartref ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y gaeaf hwn

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau unwaith eto y bydd cymorth ar gael i unrhyw un sy’n ddigartref, neu sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref, y gaeaf hwn.

Mae cannoedd o bobl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eisoes wedi derbyn cymorth a llety dros dro drwy gynllun ‘neb heb help’ sydd wedi bod ar waith gan Lywodraeth Cymru ers dechrau pandemig coronafeirws.

Bydd y cyngor yn parhau i weithio’n agos â’n partneriaid yn ystod y gaeaf i sicrhau bod cymorth llawn yn cael ei gynnig i unrhyw un sy’n ddigartref, neu sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref.

Rydym yn annog unrhyw un sy’n meddwl y gallent ddod yn ddigartref i gysylltu â ni ar unwaith - gorau po gyntaf y cawn wybod am eich sefyllfa, gan ei bod yn fwy tebygol y gallwn helpu, ac atal y sefyllfa rhag gwaethygu.

Dywedodd y Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

Gellir cyflwyno cais digartrefedd i dîm Datrysiadau Tai yr awdurdod lleol 365 diwrnod y flwyddyn. Bydd y cyngor yn asesu eich anghenion tai a chymorth, ac yn rhoi cyngor i chi ynghylch yr opsiynau sydd ar gael, yn cynnwys a allwn gynnig llety dros dro ichi.

Os ydych yn ddigartref, neu mewn perygl o ddod yn ddigartref, cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros y ffôn 1656 643643, neu ewch i www.bridgend.gov.uk

Os ydych yn poeni am rywun rydych wedi’i weld yn cysgu ar y stryd, defnyddiwch ap neu wefan StreetLink i anfon rhybudd. Mae’r manylion rydych yn eu darparu yn cael eu hanfon ymlaen i’r awdurdod lleol neu dîm cefnogaeth allgymorth fydd yn ceisio dod o hyd i’r unigolyn a sicrhau bod cymorth ar gael.

Chwilio A i Y