Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cefnogaeth i unigolion sy'n gadael gofal drwy'r brifysgol

Cytunwyd ar bolisi newydd i gefnogi unigolion sy'n gadael gofal trwy eu hastudiaethau prifysgol ac addysg uwch gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Yn flaenorol, mae cymorth ariannol y cyngor wedi galluogi pobl ifanc i dalu costau llety yn ystod y tymor a'r gwyliau, talu am ffioedd dysgu, a derbyn taliadau cynhaliaeth wythnosol.

Mae'r polisi newydd yn parhau i sicrhau nad yw unigolion sy'n gadael gofal dan anfantais yn ariannol, ond mae’n rhoi mwy o gyfrifoldeb personol iddynt dros eu harian a'r dyfodol.

Esbonia'r polisi y bydd y cyngor yn helpu'r holl unigolion sy'n gadael gofal gyda'u ceisiadau am fenthyciad ffioedd dysgu, na fydd rhaid iddynt (fel pob myfyriwr arall) ddechrau ei dalu'n ôl tan eu bod yn ennill cyflog o dros £25,000. Bydd yr unigolion sy’n gadael gofal hefyd yn derbyn Grant Costau Byw gan Lywodraeth Cymru o £8,100 y flwyddyn, y gall gael ei ddefnyddio i dalu am lety a chostau byw ac nid oes angen ei dalu'n ôl.

Byddant hefyd yn cael yr opsiwn o gael benthyciad ychwanegol o £900 os bydd ei angen arnynt, tra bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu lwfans o £25 yr wythnos i bob un o’i unigolion sy’n gadael gofal yn ystod y tymor yn ogystal â bwrsariaeth – i gyd yn ychwanegol at y grantiau y mae ganddynt hawl iddynt.

Caiff y fwrsariaeth o £667 ei thalu ar ôl cwblhau pob blwyddyn academaidd (£2,000 ar draws tair blynedd) i gefnogi'r myfyriwr dros gyfnod ei wyliau haf.

Bydd y cyngor hefyd yn cynnig grant 'cychwyn' i helpu'r myfyriwr i brynu'r pethau sylfaenol ar gyfer bywyd annibynnol yn y brifysgol megis dillad gwely, offer cegin a gliniadur. Os bydd myfyriwr yn canfod ei hun mewn amgylchiadau personol arbennig o anodd sy'n effeithio ar ei astudiaethau, yna gall y cyngor wneud taliadau ychwanegol yn ôl ei ddisgresiwn.

Cyflwynwyd y trefniadau ariannol newydd i gefnogi unigolion sy'n gadael gofal i Aelodau'r Cabinet o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am y tro cyntaf yn yr hydref ac maent bellach wedi'u cadarnhau fel polisi swyddogol.

Mae'r awdurdod lleol hwn, am sawl blwyddyn, wedi darparu cymorth ariannol i unigolion sy'n gadael gofal i fynychu cyrsiau prifysgol ac addysg uwch. Mae gennym eisoes naw unigolyn sydd wedi gadael gofal o Ben-y-bont ar Ogwr yn astudio yn y brifysgol ac rydym yn hynod falch o'u llwyddiannau. Fel rhieni corfforaethol, hoffem roi cychwyniad mor gryf â phosibl i unigolion sy'n gadael ein gofal, ond mae gennym hefyd gyfrifoldeb i'w helpu i addasu i fyw'n annibynnol.

Teimlwn fod y polisi newydd hwn yn darparu'r cymorth ariannol priodol y mae ei angen ar fyfyrwyr wrth gydnabod pa mor bwysig ydyw hefyd i’r holl unigolion sy'n gadael gofal ddysgu sut i reoli eu harian yn gyfrifol, fel eu cyfoedion.

Mae'r dull hwn yn gwneud y cymorth a gynigir gan y cyngor yn unol ag ethos Adroddiad Diamond, a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru fel argymhelliad ar gyfer dyfodol ariannu addysg uwch yng Nghymru. Bydd ein hunigolion sy'n gadael gofal sy'n mynd i addysg uwch hefyd yn parhau i dderbyn cymorth emosiynol ac ymarferol gan dîm gadael gofal y cyngor.

Cynghorydd Phil White, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Caiff effaith polisi newydd y cyngor, sef 'Pecynnau Cymorth Prifysgol i Unigolion sy'n Gadael Gofal', ei hadolygu mewn 12 mis.

Chwilio A i Y