Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cau ffordd dros dro er mwyn cryfhau pont

Bydd ffordd yr A4061 dros Bont y Ffrithwaun rhwng Melin Ifan Ddu a Phant-yr-Awel yn cael ei chau dros dro y penwythnos hwn.

Disgwylir i’r bont gau rhwng 6am ddydd Sadwrn 6 Chwefror ac 11.59pm ddydd Sul 7 Chwefror fel y gellir gosod trawstiau newydd arni.

Medd y Cynghorydd Richard Young, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau: “Y gwaith hanfodol hwn yw’r diweddaraf mewn cyfres o fuddsoddiadau y mae’r cyngor yn eu gwneud yn seilwaith priffyrdd yr ardal, ac mae’n rhan o raglen waith sydd â’r bwriad o adnewyddu, cryfhau ac atgyweirio pontydd lleol.

“Bydd yn adfywio Pont y Ffrithwaun ac yn sicrhau y bydd modd i’r trigolion barhau i ddefnyddio’r cysylltiad lleol pwysig hwn yn ddiogel am sawl blwyddyn i ddod.

“Gwneir pob ymdrech i leihau unrhyw anghyfleustra a chwblhau’r gwaith cyn gynted â phosibl – rhywbeth a all ddigwydd ynghynt na’r disgwyl. Bydd gwyriad i’w gael tra bydd y gwaith yn cael ei wneud.”

Mae'r llwybr gwyriad yn dilyn A4061 Melin Ddu, A4093 Melin Ddu, A4093 Glynogwr, A4093 Gilfach Goch, A4119 Tonyrefail, A4058 Porth, A4058 Llwynypia, A4058 Treorci, A4061 Mynydd Bwlch, A4061 Nantymoel ac A4061 Lewistown, a'r un llwybr i'r gwrthwyneb i'r rhai sy'n teithio i'r cyfeiriad arall.

Tra bydd y gwyriad ar waith, mae Bysiau First Cymru Cyf wedi dweud y bydd ei wasanaeth rhif 74 yn cael ei ddargyfeirio trwy’r A4093 a Llangeinor, ac na all stopio yn y safleoedd bysiau trwy Felin Ifan Ddu a rhan o Fryncethin ddydd Sadwrn a dydd Sul.

I gael manylion am wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, ewch i we-dudalennau First Cymru ar gyfer gwasanaethau Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Phorthcawl.

Chwilio A i Y