Categorïau diweddaraf ysgolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 09 Chwefror 2018
Mae’r gyfres ddiweddaraf o wybodaeth a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â chategoreiddio ysgolion yn dangos bod 38 o’r 48 ysgol gynradd a saith o’r naw ysgol uwchradd wedi eu categoreiddio fel rhai sy’n derbyn naill ai gymorth ‘gwyrdd’ neu ‘felyn’ ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae pob un o’r tair ysgol arbennig a’r uned gyfeirio disgyblion wedi eu gosod yn y categori ‘gwyrdd’ neu ‘felyn’.
Mae’r ystadegau, sy’n defnyddio pedwar lliw gwahanol er mwyn dangos faint o gymorth sydd ei angen ar ysgolion ledled Cymru, yn dangos bod wyth o’r 48 ysgol gynradd wedi eu gosod yn y categori ‘oren’, a dwy yn y categori ‘coch’. Mae dwy o’r naw ysgol uwchradd hefyd yn y categori ‘oren’, a dim un yn y categori ‘coch’.
Diben y categoreiddio yw cydnabod arfer dda a gweld ble o bosib mae angen gwneud mwy, ac rwy’n falch o weld bod y duedd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i wella ar y cyfan.
Rwy’n gwybod bod disgyblion, athrawon, llywodraethwyr a staff ym mhob un o’n hysgolion yn gweithio’n galed i roi’r addysg orau posib i blant ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac fe hoffwn i ddiolch iddyn nhw am eu hymdrechion a’u hymroddiad.
Byddwn nawr yn rhoi sylw mwy manwl i’r adroddiad wrth inni ystyried sut y gallwn ni a’n partneriaid yng Ngwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De weithio gyda phob ysgol leol i gynnig cymorth a chefnogaeth
Cynghorydd Charles Smith, yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio.
Ysgolion Cynrad
Gwyrdd:
Ysgol Gynradd Abercerdin, Ysgol Gynradd Cwmfelin, Ysgol Gynradd y Garth, Ysgol Gynradd Llangrallo, Ysgol Gynradd Y Drenewydd-yn-Notais, Ysgol Gynradd Pen-Y-Bont, Ysgol Cynwyd Sant, Ysgol Plant Iau Llangewydd, Ysgol Gynradd Porthcawl, Ysgol Fabanod Cefn Glas, Ysgol Gynradd West Park, Ysgol Gynradd Tondu, Ysgol Gynradd Maes Yr Haul, Ysgol Gynradd Pencoed, Ysgol Gynradd Hengastell, Ysgol Gynradd Bracla, Ysgol Gynradd Llidiard, Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig, Ysgol Gynradd y Santes Fair a Sant Padrig, Ysgol Gynradd Babyddol Sant Robert, Ysgol Gynradd y Santes Fair
Melyn:
Ysgol Gynradd Betws, Ysgol Gynradd Blaengarw, Ysgol Fabanod Bryntirion, Ysgol Gynradd Cefn Cribwr, Ysgol Gynradd Coety, Ysgol Gynradd Ffaldau, Ysgol Gynradd Nant-y-moel, Ysgol Gynradd Notais, Ysgol Gynradd Y Pîl, Ysgol Gynradd Trelales, Ysgol Gynradd Croesty, Ysgol Gynradd Corneli, Ysgol Gymraeg Bro Ogwr, Ysgol Gynradd Afon Y Felin, Ysgol Gynradd Bryncethin, Ysgol Gynradd Caerau, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Pen-y-fai
Melyngoch:
Ysgol Gynradd Brynmenyn, Ysgol Gynradd Llangynwyd, Ysgol Gynradd Nantyffyllon, Ysgol Gynradd Plasnewydd, Ysgol Y Ferch o’r Sgêr, Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw, Ysgol Gynradd Tremaen, Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru’r Archddiacon John Lewis
Coch:
Ysgol Gynradd Tynyrheol, Ysgol Gynradd Cwm Ogwr
Ysgolion Uwchradd
Gwyrdd:
Ysgol Gyfun Bryntirion, Ysgol Gyfun Brynteg, Ysgol Gyfun Porthcawl, Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath
Melyn:
Ysgol Gyfun Pencoed, Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, Coleg Cymunedol Y Dderwen
Melyngoch:
Ysgol Gyfun Cynffig, Ysgol Gyfun Maesteg
Ysgolion arbennig a’r uned gyfeirio disgyblion (UGD)
Gwyrdd:
Ysgol Arbennig Heronsbridge, Ysgol Bryn Castell
Melyn:
Darpariaeth Amgen y Bont (UGD)
Am unrhyw ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â chanolfan cyswllt cwsmeriaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
09:00 to 17:00 Dydd Llun i Ddydd Iau;
09:00 to 16:30 Dydd Gwener.