Casgliadau gwastraff gardd i ddod i ben ddydd Gwener
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 11 Tachwedd 2020
Bydd casgliadau gwastraff gardd ledled bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dod i ben ar ddydd Gwener, 13 Tachwedd eleni.
Er gwaethaf rhywfaint o darfu ar gasgliadau ar ddechrau'r pandemig Covid-19, gwelodd y gwasanaeth gynnydd yn nifer yr aelwydydd sydd wedi cofrestru.
Cymerodd contractwr newydd reolaeth o'r casgliadau ddechrau mis Mai ar ôl i'r contractwr blaenorol roi'r gorau i fasnachu oherwydd effaith y pandemig ar ei fusnes.
Cynyddodd nifer y preswylwyr sy'n defnyddio'r gwasanaeth fwy na 300, gyda gwastraff yn cael ei gasglu o gyfanswm o 5,133 o aelwydydd sydd wedi cofrestru eleni. Cododd swm cyfartalog misol y gwastraff gardd a gasglwyd yn y misoedd yr oedd y gwasanaeth yn cael ei gynnal 4% o gymharu â 2019.
Hoffwn ddiolch i'r trigolion hynny a gymerodd ran yn y gwasanaeth casglu gwastraff gardd eleni a diolch iddynt am eu hamynedd gyda'r holl darfu ar gasgliadau yn y gwanwyn. Rwy'n falch iawn o weld bod nifer yr aelwydydd sy'n defnyddio'r gwasanaeth wedi cynyddu eleni.
Bydd partneriaid gwastraff Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Kier, yn ysgrifennu at bob preswylydd sydd wedi'u cofrestru i roi gwybod iddynt pryd y bydd y broses gofrestru ar gyfer y flwyddyn nesaf yn agor.
Dywedodd y Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr