Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Casgliadau ailgylchu a gwastraff y Pasg

Sylwer y bydd y casgliadau ailgylchu a gwastraff yn digwydd fel arfer ar ddydd Gwener y Groglith ond ni fydd unrhyw gasgliadau ddydd Llun 22 Ebrill felly bydd popeth yn cael ei gasglu ddiwrnod yn hwyrach nag arfer am weddill yr wythnos honno tan ddydd Sadwrn 27 Ebrill.

Cofiwch hefyd bod preswylwyr yn gallu cofrestru ar gyfer casgliadau ailgylchu gwastraff gardd tymhorol yn awr hefyd, ac mae’r canolfannau ailgylchu wedi mynd yn ôl i oriau agor yr haf: 8.30am - 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac 8:30am - 6pm bob dydd Sadwrn a dydd Sul.

Chwilio A i Y