Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cartrefi yn cael llenwi bag gwastraff ychwanegol y Nadolig hwn

Bydd preswylwyr Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gallu rhoi un bag gwastraff ychwanegol allan y Nadolig hwn.

Fel arfer, mae preswylwyr wedi'u cyfyngu i lenwi dau fag gwastraff bob pythefnos, ond bydd gan bob cartref yr hawl i roi un bag gwastraff ychwanegol allan ar gyfer eu casgliad sbwriel cyntaf ar ôl Dydd Nadolig i helpu i gael gwared ar yr holl wastraff ychwanegol sydd wedi cronni dros yr ŵyl.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd wedi cadarnhau y bydd rhywfaint o newid i gasgliadau sbwriel ac ailgylchu dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Fe FYDD casgliadau ar Noswyl Nadolig ond NI fydd unrhyw gasgliadau ar Ddydd Nadolig na Gŵyl San Steffan ac felly bydd popeth yn cael ei gasglu dau ddiwrnod yn hwyrach na'r arfer am weddill yr wythnos honno.

Bydd casgliadau yn cael eu gwneud yn ôl yr arfer ar Nos Galan, ond ni fydd unrhyw gasgliadau ar Ddydd Calan ac felly bydd popeth yn cael ei gasglu un diwrnod yn hwyrach hyd at ddydd Sadwrn 5 Ionawr. Bydd casgliadau yn dychwelyd i’r drefn arferol o ddydd Llun 7 Ionawr ymlaen.

Yn aml ar adeg y Nadolig, mae gennych fynydd o wastraff na ellir ei ailgylchu, felly rydym yn mynd i lacio'r rheol arferol o ddau fag gwastraff fel bod preswylwyr yn gallu llenwi un bag ychwanegol os bydd angen iddynt wneud hynny.

Y brif eitem Nadolig na ellir ei hailgylchu yw papur lapio, yn ogystal â mathau eraill o ddeunydd lapio fel plastig du, papur seloffen a pholystyren. Wedi dweud hyn, mae bron i bopeth arall yn gallu cael ei ailgylchu, gan gynnwys eich gwastraff bwyd. Peidiwch ag anghofio y gall yr holl amlenni o'ch cardiau Nadolig fynd i'ch sach wen gyda gweddill eich papur, a phan ddaw'r adeg i dynnu eich cardiau i lawr, gallant gael eu hailgylchu yn eich sach oren.

Ailgylchwch gymaint â phosibl fel mai dim ond eich mân wastraff dros ben sy'n mynd i'r bin

Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd y Cyngor

Yn hytrach na defnyddio un o'r bagiau gwastraff glas sydd wedi’i ddyrannu iddynt, mae preswylwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio bag gwastraff du os bydd angen iddynt ddefnyddio bag gwastraff ychwanegol ar gyfer eu casgliad sbwriel cyntaf yn dilyn Dydd Nadolig.

I ddarganfod mwy am ailgylchu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ewch i www.recycleforbridgend.wales

Chwilio A i Y