Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cargo yn ymddangos ar y lan o gynwysyddion storio coll

Mae malurion a chargo cynwysyddion storio coll yn dechrau ymddangos ar y lan ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae'n dilyn newyddion fod pump o'r cynwysyddion 40 troedfedd o hyd yn parhau i fod heb eu darganfod ar ôl mynd ar goll o long cargo ym Môr Hafren.

Tra'r oedd y mwyafrif o'r cynwysyddion yn wag pan gollwyd hwy, roedd rhai yn cynnwys cynhyrchion meinwe amsugnol nad ydynt yn beryglus megis clytiau.

Mae'r rhain bellach yn ymddangos ar y lan yr holl ffordd ar hyd arfordir Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae trefniadau yn eu lle i'r malurion a'r cargo gael eu casglu a'u dychwelyd i'w perchnogion.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet ar gyfer Cymunedau: "Mae'r cyngor yn gweithio ochr yn ochr â'r Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau ac mae gweithdrefnau ar waith i gasglu'r cargo ar y lan.

Dros yr ychydig ddyddiau nesaf, byddwn yn gweithio i symud y cyfan o'r arfordir, a byddwn yn monitro'r sefyllfa'n agos rhag ofn y bydd cargo pellach yn ymddangos ar y lan.

Er ei bod yn annhebygol y bydd trigolion yn dod ar draws y cargo oherwydd cyfyngiadau'r cyfnod clo presennol, ni ddylid mynd at yr eitemau gan y byddant yn ddwrlawn ac yn drwm iawn.

Mae gwaith eisoes ar y gweill i dynnu'r eitemau o'r arfordir, a bydd y cyngor a'i bartneriaid yn gweithio'n agos gyda'i gilydd er mwyn cwblhau hyn dros yr ychydig ddyddiau nesaf."

Chwilio A i Y