Canolfannau hamdden yn ailagor ddydd Llun 3 Mai
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 30 Ebrill 2021
Bydd canolfannau hamdden sy'n cael eu rhedeg gan Halo ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ail-agor yr wythnos nesaf wedi i Lywodraeth Cymru lacio rhagor o gyfyngiadau coronafeirws.
Rhaid archebu lle ymlaen llaw yn yr holl sesiynau i sicrhau bod y lle yn ddigonol a diogel i bobl gymryd rhan yn eu gweithgaredd dewisol, mae hyn yn cynnwys sesiynau yn y gampfa a sesiynau nofio yn ogystal â dosbarthiadau ymarfer corff.
Dywedodd Simon Gwynne, rheolwr rhanbarthol Halo Leisure: "Rydym yn edrych ymlaen at ailagor yr wythnos nesaf a chroesawu ein cwsmeriaid yn ôl. Yr un fath ag o'r blaen, rydym wedi bod yn gweithio'n ddiwyd gyda UK Active, Community Leisure UK, cyrff llywodraethu chwaraeon, y llywodraeth ac awdurdodau iechyd i sicrhau bod mesurau diogel o ran Covid mewn lle a byddwn yn parhau i wneud hynny.
"Bydd pethau'n edrych ychydig yn wahanol pan fydd pobl yn dychwelyd, a gwyddom efallai fod gan bobl gwestiynau ar yr adeg hon, felly rydym wedi creu rhestr o atebion i gwestiynau cyffredin ar ein gwefan.
"Yn ogystal â'r angen i archebu lle ymlaen llaw mewn sesiynau, gofynnir i bobl ddod â'u masg neu orchudd wyneb gyda nhw i'r ganolfan a'i wisgo yn y dderbynfa ac o gwmpas yr adeilad - nid oes rhaid iddynt ei wisgo wrth wneud ymarfer corff.
"Ac yr un fath ag o'r blaen, rydym yn gofyn i bobl gyrraedd yn 'barod ar gyfer y gweithgaredd' sy'n golygu cyrraedd wedi newid yn barod, felly eich cit nofio neu hyfforddi o dan eich dillad a chael cawod cyn gadael eich cartref.
"Efallai na fydd cawodydd, loceri a chuddyglau ar gael ond pryd bynnag y byddant ar gael, gofynnwn i chi eu defnyddio dim ond os oes gwir angen.
"Bydd ein timau yn glynu wrth drefniadau glanhau a diheintio rheolaidd drwy gydol y diwrnod, a rhwng sesiynau y gellir archebu lle ynddynt. Rydym hefyd yn gofyn i'r holl gwsmeriaid ein helpu drwy lanhau pob cyfarpar cyn ac ar ôl eu defnyddio."
O ddydd Llun 3 Mai, bydd nofio cyhoeddus, cyfleusterau'r gampfa ac ymarferion grŵp dan do i oedolion ar gael a bydd gwersi gymnasteg a nofio i blant yn ailddechrau'r wythnos yn dechrau 10 Mai. Fodd bynnag, bydd y pwll yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i fod wedi cau am yr wythnosau nesaf oherwydd gwaith adnewyddu'r ystafelloedd newid.
Am ragor o fanylion neu i archebu lle, ewch i wefan Halo Leisure.