Canolfannau Ailgylchu Cymunedol i fod ar agor am awr yn llai
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 17 Ebrill 2019
Bydd tair Canolfan Ailgylchu Gymunedol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar agor am awr yn llai bob dydd cyn bo hir.
Mae Aelodau'r Cabinet yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i leihau ychydig ar oriau agor y canolfannau. Bydd hyn yn arbed £17,000 y flwyddyn i'r awdurdod lleol heb darfu gormod ar drigolion yr ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd y cyngor: “Bydd lleihau oriau agor yn cael yr effaith leiaf bosibl ar lefelau ailgylchu, ond yn cyfrannu at yr arbedion ariannol anferthol y mae’n ofynnol i'r cyngor eu gwneud.
“Roedd y newid hwn yn un o'r awgrymiadau arbed arian a gafodd gefnogaeth y trigolion oedd wedi cwblhau ein hymgynghoriad ar y gyllideb hydref diwethaf, sef ‘Llunio Dyfodol Pen-y-bont ar Ogwr’.”
Byddwn yn cyhoeddi manylion am yr union newidiadau i oriau agor y canolfannau yn Llandudwg, Brynmenyn a Maesteg yn y man.