Canolfan dreftadaeth gymunedol newydd wedi ei dadlennu yng Nghwm Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 01 Mawrth 2019
Mae trawsnewidiad gwerth £350,000 o Glwb Bechgyn a Merched Nant-y-moel wedi creu hyb cymunedol a chanolfan dreftadaeth newydd ar gyfer Cwm Ogwr.
Mae bellach gan y ganolfan nodweddion fel neuadd chwaraeon maint llawn, ardal gaffi gymunedol, ystafelloedd chwarae a hamdden sydd â byrddau pŵl a setiau teledu clyfar â sgriniau mawr, cyfleusterau newid i fabanod, lle ar gyfer cyfarfodydd a defnydd gan y gymuned, mynediad llawn i'r anabl, a mwy.
Defnyddiwyd arloesi technegol i gynnal y gwaith adnewyddu megis system wresogi isgoch, arddangosfeydd gwybodaeth ddigidol a Wi-Fi am ddim drwy'r holl adeilad.
Yn ogystal â darparu canolfan barhaol ar gyfer y tîm plismona cymunedol, bydd yr adeilad hefyd yn gweithredu fel Canolfan Dreftadaeth Cwm Ogwr newydd, sef atyniad i ymwelwyr a fydd yn defnyddio'r llwybr cymunedol presennol i gysylltu â Pharc Gwledig Bryngarw, gan ffurfio Llwybr Treftadaeth Cwm Ogwr newydd.
Gyda chyfleusterau llogi beiciau arfaethedig ym Mryngarw ac arddangosfeydd gwybodaeth lleisiol wedi’u gosod ar hyd y llwybr, bydd y llwybr yn gorffen yn y ganolfan dreftadaeth newydd, a fydd yn gweithredu fel lleoliad addas i feiciau â standiau trwsio, pympiau a raciau beiciau.
Pan oedd yn rhaid dymchwel hen Ganolfan Gymunedol Berwyn oherwydd problemau adeileddol, addawodd y cyngor fuddsoddi i gael cyfleuster yn ei lle. Mae Clwb Bechgyn a Merched Nant-y-moel yn lleoliad o bwys sydd â hanes balch o fewn Cwm Ogwr, ond mae'r gwaith uwchraddio ac adnewyddu hwn wedi helpu i sicrhau dyfodol newydd iddo hefyd.
Bydd yn parhau i ymddwyn fel cartref y Clwb Bechgyn a Merched yn ogystal â gwasanaethu'r gymuned fel hyb wedi'i foderneiddio'n llawn sy'n addas ar gyfer amrediad eang o ddefnyddiau, ac fel atyniad newydd i ymwelwyr a fydd yn cefnogi twristiaeth yng Nghwm Ogwr wrth hyrwyddo ei hanes a'i dreftadaeth hefyd.
 gwaith celf newydd a seddi ar gyfer y gymuned ar y gweill ar gyfer hen safle Canolfan Berwyn, bu hyn yn ymdrech bartneriaeth go iawn, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu i gyflenwi'r cyfleuster rhagorol newydd hwn ar gyfer pobl Cwm Ogwr.
Meddai'r Dirprwy Arweinydd Hywel Williams.
Mae'r prosiect wedi cael ei gefnogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Cymuned Cwm Ogwr, Cyfeillion Berwyn, Datblygu Gwledig Reach, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Clybiau Bechgyn a Merched Cymru, Grŵp Logicor, Rockwool, Cronfa Deddf Eglwys Cymru, Cronfa Datblygu Cymunedau Gwledig, Matthews Removals, a Chanolfan Cydweithredol Cymru.
Mae'r prosiect wedi derbyn arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014–2020, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.