Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Canolfan Chwaraeon Maesteg yn dathlu 40 mlynedd gyda buddsoddiad o £400k

Mae Canolfan Chwaraeon Maesteg yn dathlu ei phen-blwydd yn 40 eleni gyda buddsoddiad o £400,000 mewn offer newydd a mannau ymarfer corff.

Mae'r gwaith uwchraddio, sydd wedi’i ariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Chwaraeon Cymru a Halo Leisure, yn cynnwys campfa fwy gyda pheiriannau cardio newydd, ardal bwrpasol ar gyfer cryfder a chyflyru, parth lles, stiwdio ymarfer corff ac ardaloedd hyfforddi/gweithdy newydd. Bydd y gwelliannau i'r ystafelloedd newid hefyd yn cynnwys ystafell newid hygyrch.

Agorodd y ganolfan chwaraeon ei drysau i’r cyhoedd am y tro cyntaf ar 1 Mawrth 1983, ac ers i Halo Leisure ddechrau ei bartneriaeth â CBS Pen-y-bont ar Ogwr i redeg y ganolfan yn 2012, amcangyfrifir bod dros 1,584,823 o ymweliadau wedi bod i'r ganolfan a'i bod wedi darparu ymhell dros filiwn o sesiynau ymarfer corff. 

I ddathlu pen-blwydd y ganolfan chwaraeon yn 40, cewch ymuno yn ystod mis Mawrth 2023 am 40c, sy'n arbediad o rhwng £10.50 a £31.10 yn dibynnu ar eich pecyn aelodaeth.

Caiff aelodau fwynhau'r gampfa, rhaglen o ddosbarthiadau ymarfer corff a'r parth cryfder a chyflyru a fydd yn cael ei gwblhau cyn bo hir, ac i blant, mae chwarae meddal JumpInGym a sesiynau Bownsio a Chwarae.

Dywedodd Rheolwr Cyffredinol Canolfan Chwaraeon Maesteg, Karl Paterson: “Mae'n  bleser cael dod â’r weledigaeth o ganolfan hamdden fodern yn fyw, diolch i fuddsoddiad gan CBS Pen-y-bont ar Ogwr, Chwaraeon Cymru a Halo. Mae cam cyntaf y gwaith o uwchraddio eisoes wedi cyflwyno amrywiaeth newydd o offer, campfa ac ardaloedd ymarfer corff mwy eu maint a gwell adran codi pwysau, ac mae'r adborth gan yr aelodau wedi bod yn gadarnhaol iawn. Wrth i'r gwaith uwchraddio barhau, ein nod yw annog mwy byth o bobl o'r gymuned leol i fyw bywydau iach ac egnïol."

Mae’n wych cael dathlu 40fed blwyddyn Canolfan Chwaraeon Maesteg a chael ein hatgoffa o’r hyn sydd ganddi i’w gynnig i bobl bob oed.

Mae’r buddsoddiad hwn o £400,000 yn gwella ac yn ehangu cyfleusterau ffitrwydd i'r gymuned ac rwy'n edrych ymlaen at weld y cam nesaf yn cael ei gwblhau.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Huw David:

Chwilio A i Y