Canolfan brofi gymunedol yn agor yn Nhondu
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 16 Mawrth 2021
Mae'r drydedd wythnos o waith profi cymunedol yn cychwyn ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae trigolion Sarn, Abercynffig, Goetre, Ynysawdre, Tondu, Bryncethin a Bryncoch yn cael eu hannog i fynychu canolfan brofi newydd sydd wedi ei hagor yng Nghlwb Criced Tondu.
Nid oes rhaid trefnu apwyntiad, ac mae'r ganolfan galw heibio ar gael yng Nghlwb Criced Tondu o 17-23 Mawrth rhwng 9.30am-6.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a 10am-4pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.
Mae profi cymunedol yn helpu i atal y feirws rhag cael ei ledaenu heb i chi wybod i deulu, ffrindiau, cymdogion, cydweithwyr a mwy, ac mae'r gwaith wedi cael ei ddylunio i adnabod pobl allai fod gyda coronafeirws heb wybod hynny.
Ar ôl gwneud gwaith profi cymunedol ar fwy na 1,000 o drigolion ym Mryn Cynffig a Phencoed, cafodd dau berson eu hadnabod ac nid oeddynt yn ymwybodol fod ganddynt Covid-19 gan nad oeddynt yn profi unrhyw rai o'r symptomau.
Mae'r profion wedi'u hanelu at drigolion sy'n 11 oed a hŷn, ac sy'n teimlo’n heini ac yn iach fel arall.
Gan ei bod yn bosib i bobl sydd wedi cael eu brechu barhau i gario'r feirws, dylai trigolion yn yr ardaloedd dan sylw, a allai fod eisoes wedi cael prawf neu sydd wedi cael dos o'r brechlyn gymryd rhan o hyd, er bod pobl sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain wedi'u heithrio.
Nid oes angen trefnu apwyntiad, ond gall cyfranogwyr gyflymu'r broses gofrestru drwy lawrlwytho ap cod QR Covid-19 cyn cyrraedd – gallwch wneud hyn drwy fynd i dudalen we Covid-19 ar wefan y GIG.
Cynghorir cyfranogwyr hefyd i beidio â bwyta am 30 munud cyn cyrraedd i gael prawf.
Yn y canolfannau profi cymunedol, bydd staff yn arwain pobl at fythod lle gallant wneud prawf swab. Bydd y swab yn cael ei brosesu ar y safle, a chysylltir â chyfranogwyr o fewn 30 munud gyda'r canlyniadau.
Os bydd canlyniad positif yn cael ei gofnodi, gofynnir i'r unigolyn hunanynysu tra bo trefniadau'n cael eu gwneud iddynt gael prawf cadarnhau a chyngor a chymorth pellach.
Mae profi cymunedol yn darparu ffordd gyflym ac effeithlon i bobl wirio nad ydynt yn peryglu eu cymuned heb wybod, ac rydym angen cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan.
Arweinydd y Cyngor, Huw David
Ar ôl gorffen y gwaith profi cymunedol yn Nhondu, bydd y ganolfan yn symud ymlaen ar gyfer cam olaf y rhaglen brofi gymunedol, fydd yn cael ei gynnal yng Nghlwb Pêl-droed Athletau Caerau rhwng 24-31 Mawrth.
Am ragor o wybodaeth, ewch i'r dudalen profi gymunedol.