Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Canolfan brofi gymunedol newydd yn agor ym Mhencoed

Mae'r ail wythnos o waith profi cymunedol yn cychwyn ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae trigolion Pencoed, Heol-Y-Cyw, Hendre a Felindre yn cael eu hannog i fynychu canolfan newydd sydd wedi ei sefydlu yng Nghlwb Cymdeithasol Pencoed.

Nid oes rhaid trefnu apwyntiad, ac mae'r ganolfan galw heibio ar gael yng Nghlwb Cymdeithasol Pencoed tan 16 Mawrth rhwng 9.30am-6.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a 10am-4pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Mae profi cymunedol wedi'i ddylunio i adnabod pobl nad ydynt yn gwybod fod ganddynt goronafeirws, a'u hatal nhw rhag lledaenu'r feirws yn ddiarwybod i'w teulu, ffrindiau, cymdogion, cydweithwyr a mwy.

Derbyniodd mwy na 500 o drigolion ganlyniadau profion negyddol mewn canolfan brofi flaenorol a sefydlwyd ym Mynydd Cynffig. Profodd un person yn asymptomatig - h.y. roeddynt yn cario Covid-19 ond heb deimlo unrhyw rai o'r symptomau.

Mae profi cymunedol yn darparu ffordd gyflym ac effeithlon i bobl wirio a ydynt yn rhoi eu cymuned mewn perygl yn ddiarwybod. Does dim rhaid trefnu apwyntiad, ac mae'r profion yn targedu pobl 11 oed a hŷn nad ydynt eisoes yn arddangos symptomau o'r feirws, sy'n teimlo'n heini ac yn iach fel arall. Mae'n bosib i bobl sydd wedi cael eu brechu gario'r feirws, felly, mae'r profion yn cynnwys trigolion sydd efallai wedi cael prawf o'r blaen, neu sydd wedi cael dos o'r brechlyn.

Yn y canolfannau, bydd staff yn arwain pobl at fythod lle gallant wneud prawf swab. Bydd y swab yn cael ei brosesu ar y safle, a chysylltir â chyfranogwyr o fewn 30 munud gyda'r canlyniadau. Os bydd canlyniad positif yn cael ei gofnodi, gofynnir i'r unigolyn hunanynysu tra bo trefniadau'n cael eu gwneud iddynt gael prawf cadarnhau a chyngor a chymorth pellach.

Ni ddylai unrhyw un sy'n gwneud prawf fwyta am o leiaf 30 munud cyn gwneud y prawf. I gyflymu'r broses gofrestru, gallwch hefyd lawrlwytho ap cod QR Covid-19 drwy fynd i'r dudalen Covid-19 ar wefan y GIG. Bydd hyn yn eich galluogi chi i sganio cod QR yn y ganolfan, ac ni fydd yn rhaid i chi dreulio amser yn llenwi cyfres o ffurflenni. Mae profi cymunedol yn ffordd werthfawr o helpu i ddiogelu ein cymunedau lleol, ac rwy'n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosib yn cymryd rhan.

Arweinydd y Cyngor, Huw David

Ar ôl gorffen y gwaith profi cymunedol ym Mhencoed, bydd y ganolfan yn symud i Glwb Criced Tondu rhwng 17-23 Mawrth, a Chlwb Pêl-droed Athletau Caerau rhwng 24-31 Mawrth.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'r dudalen profi cymunedol.

Chwilio A i Y