Canolfan ailgylchu newydd yn barod i gynnig 'gwasanaeth mwy a gwell' i breswylwyr
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 13 Gorffennaf 2021
Mae'r trefniadau terfynol yn mynd rhagddynt yng nghanolfan ailgylchu gymunedol newydd sbon ar Ystâd Ddiwydiannol Village Farm yn y Pîl.
Gyda dyluniad ar draws dwy lefel, gall gyrwyr ddilyn system un ffordd syml o gwmpas y ganolfan newydd a dewis a ydynt am ddefnyddio'r mannau parcio a sgipiau ailgylchu ar y lefel llawr, neu ddefnyddio'r lonydd osgoi a rampiau sy'n arwain at sgipiau ochrau uchel ar lefel uwch.
Gyda chanopi pob tywydd ar y lefel uchaf, mae'r safle yn cynnwys ystod o nodweddion ychwanegol, gan gynnwys polion hyblyg i helpu i arwain gyrwyr ac atal difrod damweiniol i gerbydau, goleuadau a bwerir gan banelau solar ar y safle, a mannau parcio gwastad heb gyrbau i atgyfnerthu diogelwch a chael gwared ar beryglon baglu posibl i bobl sy'n cario gwastraff o'u ceir.
Gyda lle i hyd at 24 o gerbydau ar yr un pryd, mae gan y ganolfan ailgylchu newydd gapasiti ciwio ar y safle i 72 o geir ychwanegol. I liniaru tagfeydd a chefnogi llif traffig o gwmpas y ganolfan ailgylchu ac Ystâd Ddiwydiannol Village Farm, mae gwelliannau yn cael eu gwneud i fynedfa'r ystâd.
Bydd hyn yn cyflwyno lôn droi bwrpasol o'r A48 i Heol Mostyn, goleuadau traffig newydd ac ynys groesi ddiogel. Fel rhan o'r gwaith, bydd y gyffordd hefyd yn cael ei hail-wynebu i baratoi at agor y safle.
Mae hyn yn cynrychioli buddsoddiad o £2.3m yng nghyfleusterau newydd a gwelliannau yn Ystâd Ddiwydiannol Village Farm yn ogystal â chreu cyfleuster newydd sbon a fydd yn helpu miloedd o aelwydydd i ailgylchu hyd yn oed mwy o'u gwastraff.
Bydd y cyfleuster newydd hwn yn fwy, yn well ac yn fwy hygyrch na'r safle blaenorol yn Llandudwg, ac rwy'n hynod falch o weld bod cynlluniau hefyd i greu siop ailddefnyddio newydd yn debyg i'r cyfleuster poblogaidd yng nghanolfan ailgylchu gymunedol Maesteg.
Ar ôl cwblhau'r gwaith ar y ffordd, byddwn yn cyhoeddi manylion ynghylch pa bryd all preswylwyr ddisgwyl i'r ganolfan ailgylchu gymunedol newydd agor.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd Hywel Williams