Cannoedd o swyddi ar gael yn y Ffair Swyddi Gofal Cymdeithasol nesaf
Poster information
Posted on: Dydd Iau 25 Tachwedd 2021
Yr wythnos nesaf, bydd cannoedd o swyddi gwag yn cael eu hyrwyddo mewn dwy ffair swyddi gofal cymdeithasol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Cynhelir y digwyddiad ym Mhorthcawl a Chwm Ogwr ac mae’n ffurfio rhan o ymgyrch recriwtio gofal cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n cael ei gefnogi gan Gyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr.
Cynhelir y ffair swyddi gyntaf dydd Llun 29 Tachwedd rhwng 10am-1pm yn Hi-Tide, Porthcawl, a chynhelir yr ail ffair ddydd Mawrth 30 Tachwedd rhwng 12pm-3pm yng Nghanolfan Fywyd Cwm Ogwr.
Cynigir cannoedd o swyddi yn y ddwy ffair yn ogystal â chymorth ac arweiniad ar gyfer y rhai hynny sydd â diddordeb mewn gweithio yn y sector gofal cymdeithasol. Croesewir ymholiadau gan yrwyr a phobl nad ydynt yn gyrru.
Bydd aelodau o dîm recriwtio’r awdurdod lleol, y tîm maethu, staff gofal yn y cartref, Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr ac amrywiaeth o ddarparwyr gofal annibynnol ar gael i ateb unrhyw gwestiwn.
Mae digwyddiadau fel hyn yn gyfle gwych i bobl gwrdd â sawl cyflogwr gwahanol mewn un diwrnod, dysgu popeth am weithio yn y sector, a gwneud cais uniongyrchol ar gyfer amrywiaeth o swyddi.
Rydym wirioneddol angen i fwy o bobl ystyried y llu o fanteision sy’n deillio o weithio ym maes gofal cymdeithasol. Mae’n swydd am byth, mae hyfforddiant a chymorth llawn ar gael ac os ydych chi’n berson sy’n hoffi pobl, byddwch yn teimlo boddhad gwirioneddol wrth helpu pobl i fyw'r bywydau sy’n bwysig iddyn nhw.
Mae gofalwyr yn hanfodol i unigolion, teuluoedd a chymunedau a hoffaf ddiolch i’n holl weithwyr gofal am y gwaith arbennig maent yn ei wneud.
Cynghorydd Nicole Burnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar
Nid oes angen gwneud trefniadau ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiadau hyn.