Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cannoedd o gyfleoedd ar gael yn Ffair Swyddi Pen-y-bont ar Ogwr

Bydd dwsinau o gyflogwyr a sefydliadau yn dod i ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr y mis nesaf ar gyfer Ffair Swyddi awyr agored gyntaf Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim rhwng 10am-2pm ar ddydd Iau Medi 16, yn cael ei gynnal mewn gwahanol leoliadau o amgylch canol tref Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys Dunraven Place a Stryd Caroline.

Trefnwyd y digwyddiad gan raglen Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr fel rhan o bartneriaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyda’r Canolfan Byd Gwaith. Bydd y ddau sefydliad yn cynnig cymorth a chyngor ar amrywiaeth o gyfleoedd gwaith, hyfforddiant a gwirfoddoli.

Mae’r cyflogwyr a fydd yn y digwyddiad yn cynnwys Heddlu De Cymru, Avon Cosmetics, Bysiau First Cymru, G4S, Gyrfa Cymru a Gwasanaethau Glanhau A&R yn ogystal â MPS Industrial, y cwmni Rheoli Cyfleusterau Rubicon Wales, Harlequin Home Care Ltd a Wilmott Dixon. Bydd yna amrywiaeth o swyddi gwag dros dro a pharhaol ar gael i wneud cais amdanynt ar y diwrnod.

Bydd staff o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wrth law i ddarparu manylion am swyddi gwag cyfredol yn yr awdurdod lleol, cyngor ar hyfforddiant a chyfleoedd cymorth i raddedigion ysgol a choleg, a mwy.

Dros y blynyddoedd, mae’r digwyddiad wedi denu nifer fawr o ymwelwyr ac mae cyflogwyr wedi gallu dod o hyd i ymgeiswyr addas ar gyfer eu swyddi.

Mae’r ffair swyddi blynyddol bob amser yn boblogaidd iawn gyda phobl sy’n chwilio am waith a chyflogwyr ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Rwy’n falch iawn bod yr awdurdod lleol a’r Ganolfan Byd Gwaith yn gweithio gyda’i gilydd unwaith eto i drefnu digwyddiad eleni.

Mae’r ffair yn gyfle gwych i ennill gwybodaeth a chefnogaeth bwysig ar gyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddi ac mae wedi ennill enw da fel digwyddiad lle gall pobl gael gafael ar yr holl gymorth sydd ei angen arnynt i lwyddo.

Arweinydd y Cyngor, Huw David

Mae cyfle o hyd i fusnesau archebu stondin yn y digwyddiad. Am ragor o wybodaeth neu i archebu stondin, cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith ar 07557 498871 neu 07909 342246.

Chwilio A i Y