Canmol llwyddiant dros y Nadolig y criwiau casglu gwastraff
Poster information
Posted on: Dydd Iau 27 Ionawr 2022
Mae Kier, partner gwastraff Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei ganmol ar gyfer ei rôl wrth sicrhau bod gwastraff ac ailgylchu wedi’i gasglu’n effeithlon dros gyfnod y Nadolig.
Cafodd dros 1,300 tunnell o wastraff ailgylchu ei gasglu dros gyfnod o bythefnos yn dilyn y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd - sydd fwy neu lai’n gyfystyr â phwysau 11 o forfilod glas wedi tyfu’n llawn.
O gymharu â blynyddoedd blaenorol, casglwyd 150 tunnell yn llai o wastraff, sy’n dangos cynnydd yn y niferoedd sy’n defnyddio’r gwasanaeth ailgylchu.
Dywedodd Gareth Barnes, rheolwr busnes Kier: “Y Nadolig yw adeg prysuraf o’r flwyddyn i ni, ac rwy’n falch o ddweud, er gwaethaf yr heriau rydym wedi’u hwynebu yn ystod y flwyddyn gyda Covid-19 a’r prinder gyrwyr Cerbydau Nwyddau Trymion, rydym wedi medru cynnal gwasanaeth casglu didrafferth a llwyddiannus, ac rwy’n ddiolchgar i’n criwiau casglu am eu gwaith caled a’u hymdrech."
Hoffaf fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl griwiau casglu gwastraff am eu gwaith hynod galed dros gyfnod y Nadolig er mwyn sicrhau bod cyn nifer o wastraff â phosibl yn cael ei gasglu.
Diolch yn fawr hefyd i drigolion ledled y fwrdeistref sirol am eu hymdrechion yn ein helpu ni i ailgylchu cymaint o wastraff â phosibl yn ystod y cyfnodau anodd hyn.
Dirprwy arweinydd Hywel Williams
Gallwch nawr gofrestru ar gyfer gwasanaeth casglu gwastraff gerddi Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a fydd yn dychwelyd y gwanwyn hwn.
Cesglir gwastraff gerddi bob pythefnos, a bydd casgliadau'n cael eu cynnal o 14 Mawrth 2022 hyd at 18 Tachwedd 2022. Cewch wybod diwrnod casglu eich gwastraff gardd wrth i chi gael eich sachau.
Tan ddiwedd Mawrth 2022, pris y tanysgrifiadau yw £38.91 yr aelwyd, neu £34.85 i bensiynwyr. Mae bagiau ychwanegol yn costio £5.08 yr un. I gofrestru, ewch i wefan Ailgylchu dros Ben-y-bont ar Ogwr.
Os yw rhywun yn eich cartref yn dangos symptomau coronafeirws, dylai cadachau a hancesi papur a ddefnyddir i lanhau arwynebau gael eu bagio ddwywaith a'u rhoi o'r neilltu am 72 awr cyn mynd i'r bag gwastraff glas.
Ewch i wefan ailgylchu a gwastraff y cyngor am ragor o wybodaeth ynghylch casgliadau.