Canlyniadau TGAU Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwella
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 24 Awst 2018
Mae canlyniadau arholiadau TGAU eleni wedi dangos bod 94.7% o’r holl ddisgyblion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi llwyddo mewn o leiaf pum arholiad yr un, gyda 70.6% ohonynt yn cael pump neu fwy o raddau A*-C.
Dyma'r ail flwyddyn o adrodd ar y fformat TGAU newydd ei ddatblygu, ac mae'n amlwg fod Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwella ar ffigurau'r llynedd.
Mae perfformiad disgyblion lleol yn cymharu'n ffafriol â pherfformiad ledled Cymru - er bod Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ychydig yn is na ffigur Cymru gyfan y llynedd, mae perfformiad eleni bellach yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol.
Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio: "Rwy'n falch iawn o weld bod canlyniadau i blant ysgolion lleol wedi gwella, a hoffwn longyfarch yr holl ddisgyblion am eu gwaith caled a'u cyflawniadau.
"Mae'n ardderchog clywed straeon llwyddiant mewn cymaint o'n hysgolion ni, a hoffwn ddiolch i'r holl staff addysgu a staff cymorth am eu hymroddiad eithriadol i ddatblygiad academaidd a chymdeithasol ein pobl ifanc."
Mae diwrnod canlyniadau TGAU yn nodi diwedd cyfnod lle bu cryn dipyn o waith caled a nosweithiau digwsg! Bydd rhai myfyrwyr yn dathlu cyfres o raddau A*, tra bydd eraill wedi bod yn astudio'n eithriadol o galed i ennill y graddau a oedd angen arnynt i gyrraedd y lle maen nhw am fynd iddo nesaf, boed hynny'n addysg bellach, hyfforddiant neu waith. Mae pob un ohonynt yn haeddu cael eu llongyfarch am eu llwyddiannau unigol.
Fel arfer, mae arlwy o wasanaethau cyngor a chymorth ar gael i'r rhai hynny efallai na wnaethon nhw gael y canlyniadau yr oedden nhw'n gobeithio amdanynt, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad â'ch ysgol, coleg, neu Gyrfa Cymru i gael rhagor o wybodaeth.
Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw David:
Mae'r canlynol ymysg y cyflawniadau sy'n werth eu nodi ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
- Gwnaeth 28.5% o blant Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath ennill pum gradd A*–A.
- Gwnaeth 72% o blant Ysgol Gyfun Cynffig ennill pum gradd A*–C.
- Gwnaeth 23% o blant YGG Llangynwyd ennill pum gradd A*–A.
- Gwnaeth 71.8% o blant Ysgol Maesteg ennill pum gradd A*–C.
- Gwnaeth 88.8% o blant Ysgol Gyfun Porthcawl ennill pum gradd A*–C, gyda 35.8% yn ennill pum gradd A*–A.
- Gwnaeth 88.9% o blant The Bridge Alternative Provision ennill pum gradd A*–G, gyda chwarter o'r plant hynny'n ennill pum gradd A*–C.
- Gwnaeth 54.5% o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Pencoed ennill pump neu fwy o raddau A*–C, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg.