Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Canlyniadau Safon Uwch cryf i ysgolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Gwnaeth 99 y cant aruthrol o fyfyrwyr yn ysgolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ennill o leiaf dau gymhwyster Safon Uwch heddiw.

Mae hyn yn cymharu'n ffafriol â'r ffigur o 97.4 y cant ar gyfer Cymru gyfan.

O'r holl raddau a enillwyd gan ddisgyblion lleol eleni, roedd 20 y cant ohonynt yn A* neu A (cyfartaledd Cymru oedd 26.3 y cant), roedd 74.2 y cant ohonynt rhwng A* a C (cyfartaledd Cymru oedd 76.3 y cant) ac roedd 98.3 y cant ohonynt rhwng A* ac E (cyfartaledd Cymru oedd 97.4 y cant).

Gwelwyd gwelliannau sylweddol yng nghanlyniadau Bagloriaeth Cymru hefyd, gyda pherfformiadau yn y Dystysgrif Sgiliau Uwch ym mhell uwchlaw'r cyfartaledd ar gyfer Gymru gyfan.

Ar gyfer Bagloriaeth Cymru, roedd 26.8 y cant o'r graddau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn A* neu A (cyfartaledd Cymru oedd 21.5 y cant), a 99.4 y cant o'r graddau lleol rhwng A* ac E (cyfartaledd Cymru oedd 97.7 y cant).

Dyfarnwyd canlyniadau Safon Uwch Gyfrannol arbennig o gryf hefyd, lle roedd 22 y cant o'r graddau yn A* neu A (cyfartaledd Cymru oedd 20.4 y cant), 70 y cant rhwng A* a C (cyfartaledd Cymru oedd 61.9 y cant) a 95.1 y cant rhwng A* ac E (cyfartaledd Cymru oedd 90 y cant).

Mae canlyniadau eleni wedi dangos perfformiadau cryf ar draws pob lefel. Hoffwn longyfarch y disgyblion a'r myfyrwyr ar eu llwyddiant a'u gwaith caled, a diolch i'r athrawon, y llywodraethwyr a'r rhieni am eu hymroddiad a'u cymorth diwyro.

Yn arbennig, hoffwn grybwyll canlyniadau Safon Uwch Coleg Cymunedol y Dderwen, lle gwelwyd cynnydd o 9.5 y cant yn nifer y graddau A* ac A a chynnydd syfrdanol o 20.8 y cant yn y graddau rhwng A* a C.

Yn ogystal, cafodd canran ryfeddol o 84 y cant o fyfyrwyr yn yr ysgol eu derbyn i'w cwrs prifysgol o ddewis, sy'n newyddion anhygoel. Mae cymaint o lwyddiannau personol y tu ôl i'r ystadegau hyn, sy'n pwysleisio ymhellach y rhesymau pam mae addysg wedi bod yn flaenoriaeth hirdymor i'r awdurdod lleol hwn.

Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio: "Er ei fod yn cael ei hanwybyddu weithiau, hoffwn dynnu sylw at y cyflawniadau ardderchog yn y Fagloriaeth Gymreig.

"Mae prifysgolion wedi nodi cymaint maen nhw'n mawrbrisio'r cymhwyster hwn, gan ddweud mai’r sgiliau mae'r bobl ifanc yn eu meithrin yw’r union rai maen nhw'n dymuno eu gweld yn eu hisraddedigion, felly rwy'n falch o weld bod y myfyrwyr lleol wedi rhagori eleni, ymhell dros gyfartaleddau Cymru.

"Roedd canlyniadau'r myfyrwyr Safon Uwch Gyfrannol yn gadarnhaol iawn eleni hefyd. Am eu bod yn cyfrif am 40 y cant o farciau Safon Uwch, mae graddau eleni yn argoeli'n dda iawn ar gyfer y flwyddyn nesaf am fod cymaint o fyfyrwyr eisoes wedi sicrhau canlyniadau cryf."

Chwilio A i Y