Canlyniadau arholiadau TGAU ar gyfer bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Iau 20 Awst 2020
Mae disgyblion ar draws bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn canlyniadau eu harholiadau TGAU ar gyfer 2020.
Ar ôl gorfod canslo arholiadau ffurfiol oherwydd pandemig y coronafeirws ac yn unol â'r cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru, mae'r canlyniadau ar gyfer 2020 wedi'u seilio ar raddau a aseswyd gan yr athrawon yn hytrach na chanlyniadau sydd wedi'u safoni.
Oherwydd yr amgylchiadau anarferol, mae gwybodaeth am ganlyniadau eleni ond ar gael ar sail Cymru gyfan.
Mae canlyniadau swyddogol wedi datgelu mai 74.5 yw'r gyfradd basio genedlaethol ar gyfer graddau A*–C yn 2020, a bod cyfanswm o 99.6 y cant o ddisgyblion wedi sgorio graddau A* i G.
Cadarnhaodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams yn gynharach yr wythnos hon na fyddai'r broses safoni ystadegol a ddatblygwyd gan fwrdd arholi Cydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC) a Chymwysterau Cymru yn cael ei defnyddio, ac ar gyfer 2020 y byddai graddau a aseswyd gan yr athrawon yn cael eu dosbarthu i bob myfyriwr sy’n derbyn cymwysterau TGAU, Safon Uwch a Safon UG, Tystysgrifau Her Sgiliau, a Bagloriaethau Cymru.
Mae'r coronafeirws wedi cael effaith ar bob agwedd o'n bywydau, ond bu 2020 yn flwyddyn arbennig o anodd i bobl ifanc.
Mae'r penderfyniad gan y Gweinidog Addysg i ymddiried yn y graddau a aseswyd gan yr athrawon yn un cywir. Rydw i a fy nghydweithwyr yn y cabinet wedi cynghori yn erbyn defnyddio algorithm, ac rydym wedi dadlau o blaid defnyddio asesiadau athrawon ers pan gyhoeddwyd yn gyntaf bod yr arholiadau wedi'u canslo rhai misoedd yn ôl.
Gobeithio bod gwaith caled ein disgyblion wedi cyflawni'r graddau y maen nhw'n eu haeddu, a ph’un a ydynt yn parhau â'u hastudiaethau ar gyfer Safon Uwch, yn manteisio ar gyfleoedd hyfforddi newydd neu'n chwilio am waith, y byddan nhw wedi'u paratoi'n dda ar gyfer y cam nesaf yn eu bywydau. Fel arfer, bydd y cyngor a'i bartneriaid yn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth lawn trwy gydol y cyfnod pontio pwysig hwn. Ar gyfer unrhyw un nad yw wedi derbyn y graddau roedd yn gobeithio eu cael, mae modd cael mynediad at ystod eang o gyngor, cymorth a chwnsela cyfrinachol, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad â'ch ysgol neu Gyrfa Cymru i gael rhagor o wybodaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio