Canlyniad astudiaeth ddichonolrwydd ar ysgol gynradd newydd arfaethedig
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 15 Hydref 2021
Bydd Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cwrdd yr wythnos nesaf i ystyried canlyniad astudiaeth ddichonolrwydd ynghylch a fydd hi’n bosib sefydlu adeilad a meithrinfa newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig ym Mynydd Cynffig.
Gofynnir i aelodau cabinet gymeradwyo cynigion er mwyn symud i gam nesaf y broses, a fydd yn cynnwys cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y cynlluniau.
Os rhoddir cymeradwyaeth, mae’r prosiect yn bwriadu darparu ysgol mynediad dau ddosbarth gwerth £10.2m a meithrinfa gyda lle i 75 o blant ar gyn-safle’r ysgol iau erbyn 2025.
Mae’r gwaith yn rhan o fenter barhaus y cyngor i foderneiddio ysgolion a bydd cyllid ar gyfer y prosiect yn cael ei ddarparu gan Raglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru a buddsoddiadau cyfalaf y cyngor ei hun.
Ffurfiwyd Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig yn 2015, ar ôl uno’r ysgolion cynradd ac iau. Yn ddiweddarach, roedd yn rhaid i ran o gyn safle’r ysgol iau gau ar ôl i beipen oedd wedi byrstio achosi difrodi helaeth i’r adeilad. Roedd yn rhaid defnyddio dosbarthiadau modwlar o safon uchel fel mesur dros dro.
Os bydd y cynllun yn llwyddiannus, bydd y safle presennol yn cael adeilad newydd a fydd yn cynnwys cyfleusterau dysgu modern.
- Bydd y Cabinet yn cyfarfod i drafod y cynlluniau am 2.30pm ddydd Mawrth 19 Hydref.