Canllawiau newydd i bobl yn y grwpiau blaenoriaeth sydd yn disgwyl i gael eu brechu
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 10 Chwefror 2021
Mae manylion newydd wedi cael eu cyhoeddi ynghylch sut mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn sicrhau nad yw pobl gymwys yn methu eu cyfle i dderbyn brechlyn Covid-19.
Mae'r bwrdd iechyd yn gofyn i unrhyw un sydd yn un o'r pedwar prif grŵp blaenoriaeth canlynol i gysylltu â nhw drwy ddefnyddio ffurflen ar-lein, os nad ydynt wedi cael apwyntiad i gael brechlyn hyd yn hyn:
- Preswylwyr a staff cartrefi gofal.
- Pobl 80 oed neu hŷn.
- Gweithwyr gofal cymdeithasol ac iechyd rheng flaen.
- Pobl 75 oed a hŷn, a phobl sy’n hynod fregus yn glinigol.
Mae'r ffurflen ar-lein ar gael ar wefan Cwm Taf, ac mae'n gofyn i bobl nodi i ba grŵp maent yn perthyn, a chynnwys rhai manylion cyswllt Yna, cysylltir â nhw'n uniongyrchol gyda manylion ar sut allant gael y brechlyn.
I arbed y system rhag cael ei cham-drin, atgoffir pobl eu bod yn derbyn y brechlyn am ddim - rhaid bod yn wyliadwrus o sgamwyr, peidiwch â throsglwyddo unrhyw arian, manylion banc neu wybodaeth gyfrinachol dros y ffôn, a gwnewch nodyn o unrhyw ymddygiad amheus.
Cyhoeddwyd y canllawiau yn dilyn y newyddion bod mwy na 90,300 o bobl ar draws y rhanbarth bellach wedi derbyn eu pigiad cyntaf o'r brechlyn, yn cynnwys mwy na 25,600 o breswylwyr bregus Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Ar draws y rhanbarth, mae 75,830 wedi derbyn y brechlyn, ac mae 18,850 ohonynt yn y grŵp blaenoriaeth 80 oed a hŷn.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David: "Mae hyn yn newyddion gwych. Mae oddeutu 100,000 o bobl ledled rhanbarth Cwm Taf o fewn y pedwar prif grŵp blaenoriaeth, ac mae'r bwrdd iechyd ar ei ffordd i gyflawni ei dargedau i sicrhau eu bod nhw'n derbyn o leiaf eu brechlyn cyntaf, erbyn canol mis Chwefror.
"Hefyd, mae'n wych gweld bod y brechlynnau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi croesi'r marc 25,600 yn rhannol oherwydd cynnydd mewn capasiti a chyflwyno apwyntiadau'n ystod gyda'r nosau yn ein canolfan frechu leol, a bod y rhaglen wedi cyrraedd mwy na 90,300 o bobl ledled rhanbarth Cwm Taf.
"Nawr, rhoddir sylw i unrhyw a fethwyd, felly os ydych o fewn un o'r pedwar prif grŵp blaenoriaeth, ac nad oes neb wedi cysylltu â chi neu nad ydych wedi derbyn dyddiad ar gyfer apwyntiad eto, defnyddiwch y ffurflen ar-lein ar wefan Cwm Taf, a bydd rhywun yn cysylltu â chi."
Mae gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig atebion i gwestiynau cyffredin ynghylch y brechlyn, ac mae llinell gymorth ac e-bost penodol wedi'u sefydlu i gynorthwyo pobl gydag unrhyw ymholiadau.
Gallwch ddefnyddio'r rhain drwy ffonio 01685 726464 rhwng 10am-4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, neu drwy anfon e-bost at CTM.VaccinationEnquiries@wales.nhs.uk."
Yn ogystal, mae profion symudol yn parhau i fod ar waith yn y fwrdeistref sirol, ac anogir preswylwyr i ddefnyddio'r gwasanaeth am ddim hwn os ydynt yn profi unrhyw rai o'r symptomau sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws.
Mae cyfleuster profi gyrru drwodd symudol ar gael ar hyn o bryd rhwng 9am-4pm ym Mhwll Nofio Halo'r Pîl (CF33 6RP), ac mae cyfleuster profi cerdded drwodd yn parhau i fod ar agor rhwng 8am-8pm ym maes parcio'r Neuadd Fowlio ger Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr (CF31 4AH).
Mae trefnu apwyntiad yn hanfodol ar gyfer y ddau gyfleuster hyn a gellir gwneud hyn ar wefan Llywodraeth Cymru neu drwy ffonio 119. Gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd drefnu apwyntiad drwy ffonio 18001119.