Canllawiau ar gyfer trefnu parti stryd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 29 Mawrth 2022
Bydd gŵyl y banc pedwar diwrnod yn digwydd rhwng dydd Iau 2 Mehefin - Dydd Sul 5 Mehefin ynghyd â chyfres o ddigwyddiadau cenedlaethol i ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines.
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ganllaw cam wrth gam ar gael i drigolion sydd eisiau dathlu'r digwyddiad gyda pharti stryd neu ddathliad cymunedol arall.
Mae trigolion yn dod ynghyd i drefnu partïon stryd i ddathlu digwyddiadau brenhinol neu ddigwyddiadau cenedlaethol eraill yn draddodiad Prydeinig.
Bydd y Jiwbilî Platinwm yn cynnig cyfle gwych i gymunedau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddod ynghyd i gynnal dathliad gyda chymdogion.
I fod o gymorth gyda hyn ac i sicrhau bod pobl yn dathlu'r digwyddiad yn ddiogel, mae'r cyngor yn cyhoeddi'r wybodaeth ganlynol fel bod cymunedau'n gallu paratoi ymlaen llaw.
Dywedodd y Prif Weithredwr Mark Shephard
Os hoffech drefnu eich digwyddiad eich hunan ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, dyma beth sydd angen ichi ei wybod:
- Cynlluniwch ymlaen llaw - meddyliwch beth hoffech chi ei gyflawni, ac ymhle yr hoffech gynnal y digwyddiad. Os yw'r digwyddiad ar dir o eiddo'r cyngor neu'n ymwneud â stryd / priffordd, cysylltwch â'r awdurdod lleol cyn gynted ag y bo modd.
- Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi ceisiadau i gau ffyrdd i alluogi parti stryd gael ei gynnal cyn belled â bod y lleoliad yn addas i'r math yma o ddigwyddiad - er enghraifft, heol bengaead neu ffordd fechan heb lawer o draffig.
- Mae'n rhaid i rai ffyrdd aros ar agor e.e. os ydynt yn rhan o lwybr bws neu fod eu hangen ar gyfer mynediad brys. Nid yw priffyrdd cyhoeddus sydd yn ffyrdd dosbarth A, B neu C yn addas ar gyfer ceisiadau i'w cau.
- Tra nad oes cost i wneud cais am gau ffordd dros dro, mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau 10 diwrnod cyn y digwyddiad a gynllunir. Gallwch anfon y rhain at streetparty@bridgend.gov.uk.
- Bydd angen i geisiadau ddangos bod trigolion y stryd yn gefnogol i'r cais i gau'r ffordd. Dylid enwi trefnydd penodedig ynghyd â'u manylion cyswllt sy'n gwbl gyfrifol am y parti stryd a'r cais i gau'r ffordd.
- Bydd angen i'r trefnydd penodedig ddarparu manylion yn dangos bod asesiad risg wedi cael ei gwblhau, a bod mesurau priodol mewn lle i gau'r ffordd yn ddiogel, i gyfyngu mynediad i draffig er mwyn diogelwch y cyhoedd ac i gynnal y cau ffordd yn ddigonol tra bod y digwyddiad yn cael ei gynnal.
- Fel parti preifat, yn unol â rheoliadau trwyddedu ni fydd angen trwydded arnoch i werthu bwyd oni bai eich bod eisiau gwerthu bwyd poeth ar ôl 11pm. Mae cytuno gyda chymdogion i ddod â bwyd i'w rannu yn y digwyddiad yn ffordd dda o ddod â gwahanol bobl ynghyd.
- Os ydych eisiau bar, yn bwriadu darparu adloniant i gyhoedd ehangach neu godi tâl i godi arian ar gyfer y digwyddiad, byddwch angen Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro rhad ac am ddim a chyfnod hysbysiad o 10 diwrnod gwaith o leiaf. Os yw'ch digwyddiad yn debygol o gynnwys mwy na 500 o bobl, bydd angen Trwydded Safle arnoch - ymwelwch â'n gwefan Licensing am fwy o wybodaeth.
- Ar gyfer partïon stryd preswyl bychan, mae yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yn cael ei argymell, ond nid yw'n hollol hanfodol. Fodd bynnag, byddai'n werth ei ystyried ar gyfer digwyddiadau mwy - am gyngor pellach, ewch i streetparty.org.uk.
- Ystyriwch a oes rhywun cymwys ar gael sydd wedi eu hyfforddi i ddarparu Cymorth Cyntaf yn y digwyddiad. Os yw'r digwyddiad yn debygol o achosi sŵn, rhowch wybod i gymdogion a busnesau yn yr ardal ymlaen llaw, a rhowch fanylion cyswllt y trefnydd iddyn nhw rhag ofn y bydd problemau.
- Cofiwch y bydd angen ichi glirio ar ôl eich parti stryd, felly cadwch eich ardal leol yn lân a thaclus. Rhowch wybod i bobl ymlaen llaw pryd fydd y parti'n gorffen, a sicrhewch fod gennych adran ar gyfer bagiau bin ac ailgylchu.
I gael gwybod mwy am drefnu a chynnal parti stryd, ewch i www.streetparty.org.uk