Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Canllawiau ar gyfer trefnu parti stryd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Bydd gŵyl y banc pedwar diwrnod yn digwydd rhwng dydd Iau 2 Mehefin - Dydd Sul 5 Mehefin 2022 ynghyd â chyfres o ddigwyddiadau cenedlaethol i ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines.

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ganllaw cam wrth gam ar gael i drigolion sydd eisiau dathlu'r digwyddiad gyda pharti stryd neu ddathliad cymunedol arall.

Mae trigolion yn dod ynghyd i drefnu partïon stryd i ddathlu digwyddiadau brenhinol neu ddigwyddiadau cenedlaethol eraill yn draddodiad Prydeinig

Bydd y Jiwbilî Platinwm yn cynnig cyfle gwych i gymunedau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddod ynghyd i gynnal dathliad gyda chymdogion.

I fod o gymorth gyda hyn ac i sicrhau bod pobl yn dathlu'r digwyddiad yn ddiogel, mae'r cyngor yn cyhoeddi'r wybodaeth ganlynol fel bod cymunedau'n gallu paratoi ymlaen llaw.

Prif Weithredwr Mark Shephard

Os hoffech drefnu eich digwyddiad eich hunan ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, dyma beth sydd angen ichi ei wybod:

  • Cynlluniwch ymlaen llaw - meddyliwch beth ydych eisiau ei gyflawni, a ble ydych eisiau cynnal y digwyddiad. Os yw'r digwyddiad ar dir o eiddo'r cyngor neu'n ymwneud â stryd / priffordd, cysylltwch â'r awdurdod lleol cyn gynted ag y bo modd.

 

  • Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi ceisiadau i gau ffyrdd i alluogi parti stryd gael ei gynnal cyn belled â bod y lleoliad yn addas i'r math yma o ddigwyddiad - er enghraifft, heol bengaead neu ffordd fechan heb lawer o draffig.

 

  • Mae'n rhaid i rai ffyrdd aros ar agor e.e. os ydynt yn rhan o lwybr bws neu bod eu hangen ar gyfer mynediad brys. Nid yw priffyrdd cyhoeddus sydd yn ffyrdd dosbarth A, B neu C yn addas ar gyfer ceisiadau i'w cau.
  • Tra nad oes cost i wneud cais am gau ffordd dros dro, mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau 10 diwrnod cyn y digwyddiad a gynllunnir. Gallwch anfon y rhain at streetparty@bridgend.gov.uk.

  • Bydd angen i geisiadau ddangos bod trigolion y stryd yn gefnogol i'r cais i gau'r ffordd. Dylid enwi trefnydd penodedig ynghyd â'u manylion cyswllt sy'n gwbl gyfrifol am y parti stryd a'r cais i gau'r ffordd.

  • Bydd angen i'r trefnydd penodedig ddarparu manylion yn dangos bod asesiad risg wedi cael ei gwblhau, a bod mesurau priodol mewn lle i gau'r ffordd yn ddiogel, i gyfyngu mynediad i draffig er mwyn diogelwch y cyhoedd ac i gynnal y cau ffordd yn ddigonol tra bod y digwyddiad yn cael ei gynnal.

  • Fel parti preifat, yn unol â rheoliadau trwyddedu ni fydd angen trwydded arnoch i werthu bwyd oni bai eich bod eisiau gwerthu bwyd poeth ar ôl 11pm. Mae cytuno gyda chymdogion i ddod â bwyd i'w rannu yn y digwyddiad yn ffordd dda o ddod â gwahanol bobl ynghyd.

  • Os ydych eisiau bar, yn bwriadu darparu adloniant i gyhoedd ehangach neu godi tâl i godi arian ar gyfer y digwyddiad, byddwch angen Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro rhad ac am ddim a chyfnod hysbysiad o 10 diwrnod gwaith o leiaf. Os yw'ch digwyddiad yn debygol o gynnwys mwy na 500 o bobl, bydd angen Trwydded Safle arnoch - ymwelwch â'n gwefan Licensing am fwy o wybodaeth.
  • Ar gyfer partïon stryd preswyl bychan, mae yswiriant atebolrwydd cyhoeddus yn cael ei argymell, ond nid yw'n hollol hanfodol. However, it would be a good idea to consider it for larger organised events – for more advice about this, visit streetparty.org.uk.
  • Ystyriwch a oes rhywun cymwys ar gael sydd wedi eu hyfforddi i ddarparu Cymorth Cyntaf yn y digwyddiad. Os yw'r digwyddiad yn debygol o achosi sŵn, rhowch wybod i gymdogion a busnesau yn yr ardal ymlaen llaw, a rhowch fanylion cyswllt y trefnydd iddyn nhw rhag ofn y bydd problemau.
  • Cofiwch y bydd angen ichi glirio ar ôl eich parti stryd, felly cadwch eich ardal leol yn lân a thaclus. Rhowch wybod i bobl ymlaen llaw pryd fydd y parti'n gorffen, a sicrhewch fod gennych adran ar gyfer bagiau bin ac ailgylchu.

I gael gwybod mwy am drefnu a chynnal parti stryd, ewch i www.streetparty.org.uk

Chwilio A i Y