Camau gweithredu i wella ansawdd aer ar ffordd fwyaf llygredig Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Iau 22 Tachwedd 2018
Llunnir cynllun gweithredu i wella ansawdd aer ar ffordd fwyaf llygredig Pen-y-bont ar Ogwr, Park Street.
Bydd arbenigwyr Adran Iechyd yr Amgylchedd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn datgan y ffordd fel Ardal Rheoli Ansawdd Aer o 1 Ionawr 2019 ar ôl recordio lefelau uchel o nitrogen deuocsid.
Bydd Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer yn cael ei baratoi yn dilyn hynny gan nodi’r mesurau y mae'r cyngor yn bwriadu eu rhoi ar waith i wella ansawdd yr aer. Gofynnir i drigolion a busnesau gerllaw am eu barn ar y mesurau a byddant yn cael y cyfle i roi eu hawgrymiadau eu hunain.
Er nad yw'r llygredd aer a recordiwyd yn Park Street yn agos o gwbl at y lefelau sydd i'w gweld mewn trefi a dinasoedd mawr, gwelwyd bod y nitrogen deuocsid yn uwch na'r lefel dderbyniol felly mae'n rhaid gweithredu.
Mae Park Street yn llwybr lleol pwysig a byddwn yn gweithio gydag amryw o randdeiliaid, gan gynnwys trigolion ac aelodau o'r cyhoedd, i ddarganfod datrysiadau posibl a fydd yn lliniaru unrhyw effeithiau ar iechyd y cyhoedd.
Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet y cyngor dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol
Mae gan yr holl awdurdodau lleol rwymedigaeth statudol i adolygu ac asesu ansawdd aer yn eu hardaloedd yn rheolaidd.