Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cam nesaf y gwaith o adnewyddu meysydd chwarae plant ar fin dechrau

Mae'r cam nesaf o waith adnewyddu meysydd chwarae plant ar fin dechrau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, fel rhan o fuddsoddiad gwerth 500k a fydd hefyd yn cynnwys gosod offer cynhwysol.

Mae'r gwaith adnewyddu yn cael ei wneud mewn cyfres o gontractau a reolir gan yr adran Mannau Gwyrdd, a disgwylir i'r gwaith fod wedi'i gwblhau o fewn y pedair i chwe wythnos nesaf.

Y meysydd chwarae sy'n cael eu hadnewyddu yw:

  • Adare Street, Cwmogwr
  • Heol y Goedwig, Porthcawl
  • Maes Chwarae New Street, Stryd y Dderwen, Abercynffig
  • Maes Chwarae Swyddfa'r Post Ton-du, Heol Maesteg, Ton-du

Mae'r offer wedi'i gynllunio i gynnig cyfuniad o weithgareddau hwyliog a heriol i fodloni gwahanol anghenion.

Mae'r dyluniad hefyd yn ystyried bod plant ifanc yn chwilfrydig ac yn fentrus, a'u bod yn dysgu ystod o sgiliau drwy'r amser, gan gynnwys sgiliau echddygol a rhyngweithio â phlant eraill.

Mae cylchfannau cynhwysol yn cael eu gosod ym meysydd chwarae New Street a Swyddfa'r Post Tondu, a bydd uned aml-chwarae gynhwysol Mountain yn cael ei gosod yn Heol y Goedwig, Porthcawl. Bydd yr holl gyfleusterau hyn yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn.

Mae’n deimlad cyffrous gweld cynifer o feysydd chwarae’n cael eu hadnewyddu ledled y fwrdeistref sirol, oherwydd mae'n hanfodol bod gan blant lleol fynediad at feysydd chwarae hwyliog a diogel, sydd wedi'u cynnal yn dda.

Mae hefyd yn braf gweld bod y buddsoddiad hwn yn helpu i wneud ein meysydd chwarae yn fwy cynhwysol a hygyrch ar gyfer ystod eang o alluoedd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau, y Cynghorydd John Spanswick:

Chwilio A i Y