Cadwch yn ddiogel ar lan y môr
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 29 Gorffennaf 2020
Gyda rhagolygon tywydd cynnes ar gyfer diwedd yr wythnos, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn atgoffa pobl i gadw'n ddiogel wrth fwynhau'r arfordir.
Mae'r dyfroedd o amgylch Sandy Bay a Marina Porthcawl yn brysur iawn yn ystod misoedd yr haf, ac maent yn boblogaidd ar gyfer gweithgareddau fel hwylio, canŵio, caiacio, hwylfyrddio, syrffio barcud, padl-fyrddio a nofio dŵr agored.
Cyn mynd i'r dŵr
Beth bynnag yw'r gweithgaredd, dylid gwirio rhagolygon y tywydd ac amodau'r môr ymlaen llaw bob amser i sicrhau eu bod yn addas. Yn ogystal â bod yn addas at y diben, dylai'r holl offer gael ei farcio'n glir gydag enw a manylion cyswllt, a dylid gwisgo siacedi achub neu gymhorthion hynofedd bob amser.
Dylai unrhyw un sy'n mynd i mewn i'r dŵr ymgyfarwyddo ag ardaloedd bas a rhwystrau a nodwyd, a hysbysu rhywun ar y lan o'u symudiadau. Dylent fod yn ymwybodol o offer a allai achosi niwed os cyffyrddir â nhw – er enghraifft, byrddau, esgyll, rhaffau a hwyliau – a dylid cadw pellter diogel oddi wrth eraill a allai fod yn y dŵr neu ar y traeth.
Gall dillad llachar, bwiau tynnu a chapiau nofio â lliwiau llachar helpu pobl eraill i’ch gweld pan fyddwch yn y dŵr, ac argymhellir bag gafael gwrth-ddŵr sy'n cynnwys eitemau fel radio, ffôn symudol, fflerau neu dortsh.
Nofio
Nofiwch o fewn ardal eich gallu ar bob adeg, gan osgoi nofio ar eich pen eich hun. Dywedwch wrth rywun ar y lan ble rydych chi'n nofio a phryd rydych chi'n disgwyl dychwelyd, a byddwch yn ymwybodol o'r oerfel a'i effaith ar y corff unwaith y byddwch yn y dŵr. Er mwyn osgoi gwrthdrawiadau a damweiniau, ystyriwch yr hyn y byddwch chi'n ei wisgo i sicrhau bod defnyddwyr a llongau eraill yn gallu eich gweld, neu a oes angen bwi tynnu.
Mae'r pethau y dylid eu hosgoi bob amser yn cynnwys deifio neu neidio o strwythur i ddŵr o ddyfnder anhysbys, nofio mewn ceryntau a llanw cryf, a nofio ar ôl yfed alcohol neu ar ôl bwyta.
Peidiwch byth â nofio ger cwch sy'n symud neu o amgylch llong sydd wedi'i hangori gyda'i hinjan wedi’i thanio, ac osgowch nofio ar draws sianel mynediad y marina bob amser.
Yn y marina
Gyda chychod yn symud i mewn ac allan o Farina Porthcawl, mae terfyn cyflymder pum not ar waith o fewn y fynedfa, a rhaid i bob cwch ymgyfarwyddo a chydymffurfio â rheoliadau rhyngwladol ar gyfer atal gwrthdrawiadau ar y môr.
Mae'n rhaid i gychod sy'n defnyddio'r marina hefyd gydymffurfio â rheoliadau perthnasol, gan gynnwys cyfarwyddiadau gan swyddfa meistr yr harbwr. Cyn mynd â chwch ar y dŵr, dylid ystyried amodau tywydd, llanw a thraffig yn ofalus – ni fydd bob amser yn ddiogel i hwylio.
Anogir pobl sy'n defnyddio cychod dŵr personol fel sgïau jet i ddefnyddio'r ardal o amgylch Bae Newton.
Gyda miloedd o bobl yn heidio i Borthcawl i fwynhau ei dyfroedd a'i harfordir bob blwyddyn, rydym am sicrhau eu bod yn gallu gwneud hynny mewn modd mor ddiogel â phosibl.
Fel y gwelwyd gyda llwyddiant y Ganolfan Chwaraeon Dŵr newydd yn Rest Bay, mae Porthcawl yn ennyn diddordeb gan nofwyr a phobl sy’n ymddiddori mewn chwaraeon dŵr o bob rhan o'r DU.
Rwy'n gobeithio y bydd ymwelwyr yn gwrando ar y cyngor hwn ac yn cymryd rhagofalon synhwyrol i ofalu am eu hunain, i ddiogelu eraill a sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau'r ardal yn ddiogel.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw David