Cadwch lygad am y calendrau ailgylchu a chofrestrwch ar gyfer casgliadau bag porffor
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 22 Mai 2018
Bydd calendrau ailgylchu newydd yn cael eu dosbarthu i bob cartref ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddarach y mis hwn, a bydd miloedd o aelwydydd sydd wedi eu cofrestru ar gyfer y casgliadau Cynhyrchion Hylendid Amsugnol (bagiau porffor) yn cael gwahoddiad i ailgofrestru ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Pan fydd y calendrau ailgylchu newydd ar gyfer 2018/19 yn dod trwy’r blwch post yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd pawb sydd wedi cofrestru ar gyfer y casgliadau bag porffor rhwng mis Ebrill a mis Medi 2017 hefyd yn cael llythyr i ddweud wrthyn nhw sut i ailgofrestru os ydyn nhw’n dal i fod angen y gwasanaeth bob pythefnos.
Wedyn, yn ystod yr hydref, byddwn yn ysgrifennu at bob cartref a gofrestrodd ar gyfer y gwasanaeth rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr y llynedd i’w gwahodd hwythau i ailgofrestru hefyd.
Byddwn yn gofyn bob blwyddyn i bobl a fydden nhw’n hoffi ailgofrestru ar gyfer y gwasanaeth oherwydd y gallai amgylchiadau fod wedi newid ac felly bydd eisoes rhai aelwydydd nad oes angen y casgliadau arnyn nhw mwyach.”
Dywedodd y Cynghorydd Hywel Williams
Gall unrhyw drigolion nad ydyn nhw wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth o’r blaen gofrestru ar unrhyw bryd trwy roi eu cod post ac wedyn dewis cofrestru. Fel arall, gellir gwneud cais i gofrestru trwy ffonio 01656 643643 (+ dewis 2) neu anfon neges e-bost i recyclingandwaste@bridgend.gov.uk.
Yn gyffredinol, mae’r casgliadau Cynhyrchion Hylendid Amsugnol yn darparu ar gyfer cewynnau, cadachau gwlyb, hancesi papur, bagiau colostomi, padiau anymataliaeth oedolion, cynfasau gwely plastig, menig plastig a ffedogau defnydd untro.
Atgoffir trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd na fydd unrhyw gasgliadau ailgylchu ddydd Llun 28 Mai oherwydd Gŵyl Banc y Sulgwyn, felly bydd casgliadau un diwrnod yn hwyrach nag arfer ar gyfer gweddill yr wythnos hyd at ddydd Sadwrn 2 Mehefin.
Mae manylion llawn am ailgylchu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gael ar y wefan ailgylchu a gwastraff.