Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cadwch lygad am gynwysyddion storio coll

Gofynnir i drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gadw llygad am gynwysyddion storio a allai ymddangos ar hyd yr arfordir lleol.

Collwyd un ar ddeg o gynwysyddion 40 troedfedd o hyd o long cargo ym Môr Hafren yn ddiweddar. Mae un eisoes wedi ymddangos ar draeth yn Nyfnaint, ac mae Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau wedi lleoli tri o'r lleill ar y môr.

Ar hyn o bryd mae'r awdurdodau yn chwilio am y pum cynhwysydd arall, ac yn grediniol o'r posibilrwydd y gallai un neu fwy ymddangos ar y lan ym Mhorthcawl.

Tra'r oedd y mwyafrif o'r cynwysyddion yn wag pan gollwyd hwy, roedd rhai yn cynnwys cynhyrchion meinwe amsugnol nad ydynt yn beryglus.

Mae trefniadau ar waith i'r cynwysyddion gael eu casglu a'u dychwelyd i'w perchnogion

Ynghyd â phartneriaid megis y Sefydliad Gwylwyr y Glannau Cenedlaethol, mae Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau wrth iddi chwilio am y cynwysyddion sydd ar goll, ac yn cynnal gwiriadau cyson o'r arfordir lleol.

O ganlyniad i gyfyngiadau symudiad pobl yn ystod y cyfnod clo cyfredol oherwydd y pandemig, mae'n llai tebygol y bydd cynwysyddion yn cael eu gweld gan aelodau o'r cyhoedd, ond os digwydd i chi weld un ohonynt, gofynnwn yn garedig i chi beidio â mynd ato - cysylltwch â'r awdurdodau cyn gynted â phosib fel y gall trefniadau gael eu rhoi ar waith ar gyfer ei gasglu'n ddiogel.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet ar gyfer cymunedau

Gallwch adrodd eich bod wedi gweld y cynwysyddion coll yn uniongyrchol i Ganolfan Gweithrediadau Gwylwyr y Glannau Milford Haven drwy e-bostio CGOC.milfordhaven@mcga.gov.uk neu ffonio 01646 690909.

Chwilio A i Y