Cadw’r fwrdeistref sirol yn symud dros y gaeaf hwn
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 01 Ionawr 2021
Gyda dechrau rhewllyd i 2021, mae staff priffyrdd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio bob awr i gadw ffyrdd yn glir a sicrhau eu bod yn ddiogel i yrwyr lleol.
Gyda mwy na 790km o ffyrdd ledled bwrdeistref y sir, mae Cynllun Cynnal a Chadw Gaeaf y cyngor yn nodi sut y bydd gweithwyr yn rhoi halen ar ffyrdd, yn clirio eira ac yn cadw traffig i symud yn ystod tywydd oerach a phan fydd y tymheredd yn gostwng.
Mae'r cynllun yn nodi llwybrau blaenoriaeth ac yn ystyried canolfannau ar gyfer gwasanaethau argyfwng, llwybrau bysiau, pentrefi ynysig, strydoedd ar lethrau serth, ardaloedd diwydiannol a siopa, ysgolion a mynediad at fynwentydd, meddygfeydd a chartrefi gofal. Mae hefyd yn amlinellu ffyrdd eilradd yr ymdrinnir â hwy ar ôl i'r prif rwydwaith priffyrdd gael ei drin.
Mae'r cyngor yn storio hyd at 4,500 tunnell o halen yn ogystal â chynlluniau ar gyfer ailgyflenwi stociau yn ystod cyfnodau hir o dywydd garw yn y gaeaf. Mae trefniadau cydweithredol hefyd ar waith gydag awdurdodau cyfagos i roi a derbyn cymorth yn ôl yr angen.
Bob dydd, mae’r cyngor yn derbyn tri rhagolwg tywydd penodol gan MeteoGroup UK. Maent yn cynnwys tir uchel mewndirol, tir isel mewndirol ac ardaloedd arfordirol i adlewyrchu cymysgedd daearyddol amrywiol o gymoedd ac arfordir.
Yn ogystal, mae’r cyngor yn cynnal pum gorsaf dywydd anghysbell mewn gwahanol leoliadau ledled y fwrdeistref sirol. Mae'r rhain yn defnyddio offer fel synwyryddion iâ i ddarparu ystod o wybodaeth i'r awdurdod gan gynnwys amodau atmosfferig a thymheredd arwyneb ffyrdd lleol, sydd oll yn cael eu defnyddio i roi rhagolwg i amodau’r tywydd, ac a oes angen gweithredu ymhellach.
Pan fydd y tymheredd yn gostwng, mae’r awdurdod yn rhag-drin y rhannau mwyaf cyffredin o’r rhwydwaith ffyrdd â halen craig gronynnog i atal rhew rhag ffurfio, a gall alw ar nifer o gerbydau a ddyluniwyd yn arbennig fel graeanwyr i gadw ffyrdd yn glir.
Mae halltu ar y ffyrdd yn dibynnu ar nifer o ffactorau megis tamprwydd a lleithder ac nid yw graeanwyr yn gosod halen ar ben eira ffres gan nad yw mor effeithiol - pan fydd y tymheredd yn gostwng yn is na 10 gradd, nid yw halen ffordd yn gweithio mwyach, felly mae’r cyngor yn ofalus iawn ynghylch pryd a sut mae’n halltu ffyrdd.
Rhaid clirio llwybrau gydag erydr cyn y gellir eu trin. Ar gyfer ardaloedd cerddwyr, mae'r cyngor yn defnyddio offer arbenigol i chwistrellu heli, toddiant hylifog sy’n helpu i feirioli iâ, ac mae gweithwyr hefyd yn clirio eira â llaw ac yn defnyddio chwythwyr eira.
Rhyngddynt, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a chynghorau cymunedol lleol yn darparu tua 400 o finiau halen a graean ledled y fwrdeistref sirol. Mae'r rhain fel arfer wedi’u lleoli ar hyd ffyrdd preswyl a mân lwybrau eraill, yn enwedig lle gallai fod cyffyrdd neu fryniau serth.
Cyn dechrau pob tymor gaeaf, caiff y biniau eu llenwi â chymysgedd o halen a thywod arbennig sydd ar gael i’w ddefnyddio gan breswylwyr a modurwyr i’w gwneud hi’n haws teithio drwy strydoedd lleol pan fydd yr amodau’n dirywio.
Mae gan y cyngor gynlluniau ar waith hefyd ar gyfer gwasanaethau rheng flaen eraill fel Homecare ac ailgylchu ochr ffordd a chasgliadau sbwriel, a gall rhieni a disgyblion gadw llygad ar ysgolion yn cau oherwydd tywydd garw ar wefan arbennig.
Gall tywydd garw effeithio ar lyfrgelloedd, canolfannau hamdden, pyllau nofio ac adeiladau eraill, ac er bod y cyngor a’i bartneriaid yn gwneud pob ymdrech i gadw cyfleusterau ar agor, nid yw bob amser yn bosibl gwneud hynny, yn enwedig os na all staff gyrraedd gwaith. Mewn sefyllfaoedd lle mae angen cau, nod yr awdurdod yw sicrhau mai dros dro yn unig fydd hyn a dychwelyd i ailddechrau gwasanaeth arferol yn gyflym ac yn ddiogel.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet ar gyfer Cymunedau: “Er bod cynllun Cynnal a Chadw Gaeaf y cyngor yn sicrhau bod yr awdurdod wedi paratoi’n dda ar gyfer tywydd garw, mae rhai digwyddiadau y tu hwnt i’n rheolaeth.
“Mae staff y cyngor yn gweithio bob awr, yn aml o dan amodau ofnadwy, i ddarparu gwasanaethau a chynnal bwrdeistref y sir, a gall preswylwyr fod yn sicr y byddwn yn gwneud popeth y gallwn i leihau aflonyddwch ac anghyfleustra a achosir gan dywydd garw’r gaeaf.
“Gallwch gael diweddariadau drwy fynd i’n gwefan tywydd y gaeaf, sy’n rhoi digonedd o gyngor a gwybodaeth ddefnyddiol gan gynnwys atebion i gwestiynau cyffredin.”