Cadw’r fwrdeistref sirol i symud yn ystod y gaeaf
Poster information
Posted on: Dydd Llun 22 Tachwedd 2021
Wrth i’r dyddiau fyrhau ac wrth i’r tywydd ddechrau oeri, mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gynlluniau ar y gweill i gynorthwyo’r preswylwyr a chadw’r fwrdeistref sirol i symud drwy gydol misoedd y gaeaf.
Mae Cynllun Cynnal a Chadw Gaeaf blynyddol y cyngor yn nodi sut y bydd yr awdurdod yn trin ffyrdd, yn blaenoriaethu llwybrau, yn clirio eira ac yn cadw’r traffig i symud.
Gyda mwy na 790 cilometr o briffyrdd i ofalu amdanynt, mae’r cynllun yn nodi’r llwybrau pwysicaf trwy’r fwrdeistref sirol ac yn ystyried canolfannau gwasanaethau brys, trafnidiaeth gyhoeddus, pentrefi anghysbell, strydoedd ar elltydd serth, ardaloedd diwydiannol a mannau siopa, ysgolion, lonydd sy’n arwain at fynwentydd, meddygfeydd, cartrefi gofal a mwy.
Mae hefyd yn nodi ffyrdd eilradd y bydd y cyngor yn delio â nhw ar ôl trin prif rwydwaith y priffyrdd.
Mae’r cyngor yn storio hyd at 5,100 tunnell o halen, a hefyd mae ganddo gynlluniau ar waith i ailgyflenwi’r stoc yn ystod cyfnodau estynedig o dywydd garw. Hefyd, yn sgil trefniadau cydweithredol gydag awdurdodau cyfagos, bydd modd i’r cyngor roi a chael help fel bo’r angen.
Bob dydd, mae’r awdurdod yn cael tri o ragolygon tywydd penodol gan sefydliad cymeradwy cenedlaethol sy’n proffwydo’r tywydd, sef DTN. Mae’r rhagolygon hyn yn ymdrin â thir uchel mewndirol, tir isel mewndirol ac ardaloedd arfordirol er mwyn adlewyrchu cymysgedd daearyddol amrywiol y fwrdeistref sirol o gymunedau’r cymoedd a chymunedau arfordirol.
Ymhellach, mae’r cyngor yn cynnal pump o orsafoedd tywydd o bell a leolir mewn gwahanol fannau ledled y fwrdeistref sirol. Mae’r rhain yn defnyddio offer fel synwyryddion rhew er mwyn cynnig gwybodaeth amrywiol i’r awdurdod, yn cynnwys amodau atmosfferig a thymheredd wyneb y ffyrdd.
Defnyddir y manylion hyn i broffwydo amodau’r tywydd, a chymryd camau pe bai angen.
Pan fydd y tymheredd yn gostwng, bydd y cyngor yn trin y ffyrdd ymlaen llaw ar hyd rhannau prysuraf y rhwydwaith ffyrdd trwy daenu creighalen arnynt i atal barrug a rhew, a hefyd gall ddefnyddio peiriannau graeanu a cherbydau pwrpasol eraill i gadw’r ffyrdd yn glir.
Er mwyn iddi weithio’n effeithiol, mae’r broses graeanu ffyrdd yn ddibynnol ar sawl ffactor, yn cynnwys y lleithder a’r gwlybaniaeth – bydd glaw yn golchi ymaith unrhyw raean sydd newydd ei daenu, ac ni fydd graean a roddir ar eira ffres yn gweithio mor effeithiol. Yn yr un modd, ni fydd y graean yn gweithio ar ôl i’r tymheredd ostwng i -10 gradd, felly mae’r cyngor yn ofalus iawn o ran pryd a sut y bydd yn graeanu ffyrdd.
Ar ôl i eira syrthio, rhaid i’r ffyrdd gael eu clirio gan erydr eira cyn y gellir eu trin, ac mae’r cyngor yn defnyddio offer arbenigol i helpu i glirio’r llwybrau troed a’r mannau cerddwyr pwysicaf.
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fwy na 400 o finiau graean ledled y fwrdeistref sirol, a chaiff cyfran o’r rhain eu darparu ar y cyd â chynghorau cymuned a chynghorau tref. Fel arfer, caiff y biniau hyn eu lleoli ar hyd ffyrdd preswyl ac is-ffyrdd eraill, yn enwedig os oes yna gyffyrdd neu elltydd serth gerllaw. Lliw melyn ydynt, er mwyn eu gwneud yn hawdd eu gweld.
Cyn i dymor y gaeaf ddechrau, caiff y biniau eu llenwi â chymysgedd o halen a thywod, a gall preswylwyr a modurwyr ddefnyddio’r graean i’w helpu i deithio trwy strydoedd lleol pe bai’r amodau’n dirywio.
Hefyd, mae gan y cyngor gynlluniau’n ymwneud â sut y bydd gwasanaethau rheng flaen yn ymdopi yn ystod cyfnodau o dywydd eithafol, yn cynnwys gofal yn y cartref a chasgliadau sbwriel ac ailgylchu ar garreg y drws. Pe bai’n rhaid i ysgolion gau oherwydd tywydd garw neu broblemau cysylltiedig, er enghraifft pibell ddŵr wedi chwythu, bydd y penaethiaid yn rhoi’r diweddaraf i’r rhieni a’r disgyblion trwy ddiweddaru tudalen we bwrpasol ar wefan y cyngor.
Gall tywydd garw effeithio ar lyfrgelloedd, canolfannau hamdden, pyllau nofio ac adeiladau eraill hefyd. Er y bydd y cyngor a’i bartneriaid yn gwneud pob ymdrech i gadw cyfleusterau o’r fath ar agor, ni fydd modd gwneud hyn bob amser, yn enwedig os na all y staff gyrraedd eu gwaith. Pan fydd yn ofynnol i’r mannau hyn gau, bydd yr awdurdod yn anelu at eu cau am gyfnod mor fyr â phosibl ac ailafael yn y gwasanaeth arferol yn gyflym ac yn ddiogel.
Mae’r cyngor yn creu cynlluniau mewn da bryd ar gyfer delio â thywydd garw, ac mae ein Cynllun Cynnal a Chadw Gaeaf yn sicrhau bod yr awdurdod wedi paratoi’n briodol.
Cewch ragor o wybodaeth a chyfle i ddilyn y datblygiadau diweddaraf ar ein tudalen we Tywydd y Gaeaf, lle cewch ddigonedd o gyngor a gwybodaeth ddefnyddiol, yn cynnwys atebion i Gwestiynau Cyffredin.
Mae’r cyngor a’r staff yn gweithio’n ddi-baid, yn aml mewn amodau ofnadwy, er mwyn darparu gwasanaethau a chadw’r fwrdeistref sirol i symud, a gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau trafferthion ac anhwylustod a ddaw yn sgil tywydd garw’r gaeaf.
Cynghorydd Stuart Baldwin, Aelod Cabinet y cyngor dros Gymunedau