Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cadeirydd bwrdd partneriaeth newydd yn addo gweithredu ac atebolrwydd

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg wedi enwi'r Cynghorydd Jane Gebbie fel cadeirydd newydd.

Bydd y Cynghorydd Gebbie, sy'n Ddirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd, yn gyfrifol am sicrhau bod aelodau'r bwrdd yn cydweithio i wella iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant pobl sy'n byw yn ardaloedd bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.

Mae hyn yn cynnwys goruchwylio cyflawni Cynllun Ardal Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg, a fydd yn amlinellu gweithredoedd y bwrdd i greu gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd gwell pan gyhoeddir hynny yng ngwanwyn 2023.

Bydd y Cynghorydd Gebbie hefyd yn sicrhau bod partneriaid yn gweithio'n gyd-gynhyrchiol â chymunedau a staff rheng flaen i greu, arwain a gwerthuso gwasanaethau.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David, ynghylch ei phenodiad fel cadeirydd: "Mae'r Cynghorydd Gebbie yn dod â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth i'r rôl hon. Mae hi wedi bod mewn sawl rôl uwch o fewn llywodraeth leol, yn cynnwys craffu ar gyfer iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, addysg, cyllidebau a deddfwriaeth, ac yn llefarydd ar ran y gweithlu, iechyd a gofal cymdeithasol i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

“Mae hi'n aelod o undeb llafur, ac yn frwdfrydig dros degwch a chyfiawnder cymdeithasol, ac wedi cynrychioli gwasanaethau cyhoeddus fel Dirprwy Gynullwr UNISON Cymru, ac yn aelod o Gyngor Cyffredinol TUC Cymru.

"Mae'r Cynghorydd Gebbie hefyd yn aelod gweithredol o Bwyllgor Cydraddoldeb Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a does gen i ddim amheuaeth y bydd yn gadeirydd effeithiol ac allweddol i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg."

"Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy mhenodi'n gadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg. Fel aelod o undeb llafur ac ymgyrchydd cymdeithasol ers tro, rwy'n credu'n gryf mewn nerth undod i hybu newid sylweddol a chadarnhaol. "Mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn mynd drwy gyfnod eithriadol o anodd, ac mae'n effeithio ar bob un ohonom mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Rydym yn gwybod hefyd o'r Asesiad Anghenion y Boblogaeth bod yna nifer o rwystrau a heriau sy'n effeithio ar iechyd a llesiant pobl na ellir eu datrys yn unigol. "Fel cadeirydd, rwy'n addo sicrhau y byddwn yn atebol fel partneriaeth. Rydym yn gwybod, o siarad gyda'n cymunedau, pa mor bwysig yw gwybodaeth a diweddariadau, ac fe fyddwn yn dryloyw ynghylch sut y gall pobl gymryd rhan yn ein gwaith, a'r cynnydd a wnawn. "Rwy'n hyderus y gallwn wella ein gwasanaethau ledled y rhanbarth drwy weithio gyda'n cymunedau a gwrando arnynt er mwyn creu dyfodol iachach a hapusach i'n trigolion."

Y Cynghorydd Jane Gebbie

Chwilio A i Y