Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cadarnhau safleoedd ar gyfer canolfannau profi cymunedol

Mae safleoedd wedi cael eu cadarnhau ar gyfer canolfannau profi cymunedol fydd yn helpu i leihau lledaeniad coronafeirws ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Bwriedir gwneud gwaith profi cymunedol ar draws y fwrdeistref sirol yn ystod y pedair wythnos nesaf ar ddyddiadau gwahanol, ac mae'r fenter yn ceisio adnabod pobl sy'n byw o fewn cymunedau lleol penodol a allai fod wedi’u heintio â’r feirws yn ddiarwybod iddynt.

Cadarnhaodd ystadegau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod posib i un ym mhob tri pherson gyda Covid-19 beidio â dangos symptomau, a'u bod nhw'n gallu trosglwyddo'r feirws i eraill yn ddiarwybod.

Dyma'r ardaloedd sy'n cael eu targedu ar gyfer gwaith profi, a chawsant eu hadnabod gan ddefnyddio data gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Caerau, Nantyffyllon, y Pîl, Mynydd Cynffig, Corneli, Cefn Cribwr, Sarn, Abercynffig, Goetre, Ynysawdre, Bryncethin, Bryncoch, Pencoed, Hendre, Felindre a Heol-y-Cyw.

Mae nifer o ganolfannau profi lleol yn cael eu hagor er mwyn cefnogi'r ardaloedd hyn, ac mae trigolion ac unigolion sy'n 11 oed a hŷn yn cael eu hannog i ddod am brawf swab. Mae'r profion hyn yn gyflym, effeithlon ac nid oes angen archebu. Maent yn targedu pobl nad ydynt eisoes yn arddangos symptomau o'r feirws, sy'n teimlo'n heini ac yn iach fel arall.

Mae'n bosib i bobl sydd wedi cael eu brechu gario'r feirws, felly, mae trigolion sydd efallai wedi cael prawf o'r blaen, neu sydd wedi cael dos o'r brechlyn, yn cael eu profi.

Bydd y canolfannau galw heibio, lle cynhelir y gwaith profi cymunedol, ar gael rhwng 9.30am-6.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a 10am-4pm ar ddydd Sadwrn a Sul. Mae'r lleoliadau fel a ganlyn:

  • Mynydd Cynffig: Cynhelir profion yng Nghlwb Pêl-droed a Rygbi Mynydd Cynffig o ddydd Mercher 3 Mawrth tan ddydd Mawrth 9 Mawrth.
  • Pencoed: Cynhelir profion yng Nghlwb Cymdeithasol Pencoed o ddydd Mercher 10 Mawrth tan ddydd Mawrth 16 Mawrth.

  • Tondu: Cynhelir profion yng Nghlwb Criced Tondu o ddydd Mercher 17 Mawrth tan ddydd Mawrth 23 Mawrth.

  • Caerau: Cynhelir profion rhwng dydd Mercher 24 Mawrth a dydd Mawrth 31 Mawrth. Mae'r lleoliad yn y broses o gael ei gadarnhau, a bydd yn cael ei gyhoeddi'n fuan.


Ni ddylai unrhyw un sy'n mynd i'r ganolfan fwyta am o leiaf 30 munud cyn gwneud y prawf. Yn y canolfannau, bydd staff yn arwain pobl at fythod lle gallant wneud prawf swab. Bydd y swab yn cael ei brosesu ar y safle, a chysylltir â chyfranogwyr o fewn 30 munud gyda'r canlyniadau.

Os bydd canlyniad positif yn cael ei gofnodi, gofynnir i'r unigolyn hunanynysu tra bo trefniadau'n cael eu gwneud iddynt gael prawf cadarnhau a chyngor a chymorth pellach.

Rydym yn annog cymaint o bobl â phosib o bob un o'r ardaloedd sydd wedi'u targedu i gymryd rhan yn y gwaith profi cymunedol.

Bwriad y gwaith yw adnabod pobl a allai fod gyda choronafeirws yn ddiarwybod, ac sy'n lledaenu'r feirws ymhlith eu ffrindiau, teulu, cymdogion, cydweithwyr a mwy yn anymwybodol.

Mae profi cymunedol yn rhan allweddol o ymdrechion Llywodraeth Cymru i adnabod ac ynysu achosion asymptomatig, a helpu i gadw ein cymunedau lleol yn ddiogel. Mae profion hefyd yn cael eu cynnal yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful, ac mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r gwaith yma ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen profi cymunedol, ewch i www.bridgend.gov.uk/community-testing

Chwilio A i Y