Cadarnhau'r ymgeiswyr ar gyfer etholiadau llywodraeth leol ar 5 Mai
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 06 Ebrill 2022
Mae ymgeiswyr bellach wedi eu cadarnhau ar gyfer etholiadau llywodraeth leol sydd i'w cynnal ddydd Iau 5 Mai 2022.
Yn dilyn adolygiad diweddar gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, yr etholiad hwn fydd y cyntaf i gynnwys strwythur ward newydd.
Bydd yr etholiad hwn yn penderfynu pwy fydd y 51 aelod fydd yn cynrychioli 28 o wardiau ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am y pum mlynedd nesaf.
Bydd hefyd yn cynnwys 236 sedd dros 20 cyngor tref lleol a chynghorau cymuned ar draws 49 o wardiau cymuned.
Ar gyfer etholiad y cyngor bwrdeistref sirol, bydd pob un o'r 51 aelod newydd yn cynrychioli 2,096 o etholwyr ar gyfartaledd.
Bydd pymtheg o'r wardiau newydd yn cael eu cynrychioli gan fwy nag un cynghorydd, bydd saith yn cynnwys dau gynghorydd, a bydd wyth yn cynnwys tri chynghorydd.
Mae'r rhestr lawn o'r ymgeiswyr fel a ganlyn:
Enw'r ward |
Nifer o seddi:
|
Ymgeiswyr: |
Abercynffig
|
Un |
|
Melin Ifan Ddu
|
Un |
· Andrew James McKay (Annibynnol) · Vanessa Janet Latchem-Smith (Ceidwadwyr Cymreig) · Hywel Miles Williams (Llafur Cymru)
|
Dwyrain Bracla a Llangrallo Isaf
|
Dau |
· Cheryl Pickering (Annibynnol) · Philip Donald Pickering (Annibynnol) · Rebekah Diane Fudge (Ceidwadwyr Cymreig) · Kay Louise Rowlands (Ceidwadwyr Cymreig) · Eugene Lewis Phillip Caparros (Llafur Cymru) · Simon John Griffiths (Llafur Cymru) · Yasmin Zahra (Plaid Cymru)
|
Canol Dwyrain Bracla
|
Un |
· Mark Charles Payn (Annibynnol) · Tyler Saul Nathan Sean Walsh (Ceidwadwyr Cymreig) · William James Kendall (Llafur Cymru) · Philippa Richards (Plaid Cymru)
|
Gorllewin Bracla
|
Un |
· Lisa Louise Lewis (Annibynnol) · Aniello Angelo Pucella (Ceidwadwyr Cymreig) · Johanna Ellen Elizabeth Llewellyn-Hopkins (Llafur Cymru)
|
Canol Gorllewin Bracla
|
Un |
|
Canol Pen-y-bont ar Ogwr
|
Tri |
|
Bryntyrion, Trelales a Merthyr Mawr
|
Tri |
|
Caerau
|
Dau |
|
Cefn Glas
|
Dau |
|
Coety Uchaf
|
Tri |
|
Corneli
|
Tri |
|
Cwm Garw
|
Tri |
|
Llangynwyd
|
Un |
|
Dwyrain Maesteg
|
Dau |
|
Gorllewin Maesteg
|
Dau |
|
Nant-y-moel
|
Un |
|
Newton
|
Un |
|
Notais
|
Un |
|
Bro Ogwr
|
Un |
|
Yr Hengastell
|
Dau |
|
Pencoed a Phenprysg
|
Tri |
|
Pen-y-Fai
|
Un |
|
Canol Dwyrain Porthcawl
|
Dau |
|
Canol Gorllewin Porthcawl
|
Un |
|
Y Pîl, Bryn Cynffig a Chefn Cribwr
|
Tri |
|
Bae Rest
|
Un |
|
Llansanffraid-ar-Ogwr ac Ynysawdre
|
Tri |
|
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw dydd Iau 14 Ebrill, am fwy o wybodaeth ewch i www.gov.uk/register-to-vote.
Bydd unrhyw un sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn derbyn cerdyn pleidleisio drwy'r post yn nodi pa orsaf bleidleisio i fynd iddi ar 5 o Fai.
Dylai unrhyw un sydd eisiau pleidlais bost gwblhau ffurflen gais a ddylai gael ei dychwelyd i swyddfa gofrestru etholiadol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dim hwyrach na 5pm ddydd Iau 19 Ebrill.
Yn y cyfamser, y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais ddirprwyol - gadael i rywun arall yr ydych yn ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eich rhan - yw dydd Mawrth 26 Ebrill.
Bydd yr etholiad yn cael ei chynnal ddydd Gwener 5 Mai, a bydd y gwaith cyfrif yn cael ei gynnal ddydd Gwener 6 Mai.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalen Etholiadwww.bridgend.gov.uk