Cadarnhau’r Arweinydd a'r Cabinet yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 22 Mai 2018
Mae’r Cynghorydd Huw David wedi’i ailethol yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Etholwyd y Cynghorydd David, sydd hefyd yn aelod dros ward Cefn Cribwr, i swydd Arweinydd yr awdurdod lleol yn ddiwrthwynebiad yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor ddydd Mercher 16 Mai.
Dewiswyd y Cynghorydd John McCarthy i olynu’r Cynghorydd Pam Davies i swydd Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a’r Cynghorydd Stuart Baldwin fydd y Dirprwy Faer.
Cytunwyd ar swyddi portffolio y Cabinet ar gyfer y flwyddyn nesaf hefyd:
- Dirprwy Arweinydd – Y Cynghorydd Hywel Williams
- Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar – Y Cynghorydd Phil
White
- Yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio – Y Cynghorydd Charles Smith
- Yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol – Y Cynghorydd Dhanisha Patel
- Yr Aelod Cabinet dros Gymunedau – Y Cynghorydd Richard Young
Cadarnhawyd y grwpiau ac arweinwyr y grwpiau fel a ganlyn:
- Llafur (26) – Y Cynghorydd Huw David
- Y Gynghrair Annibynnol (11) – Y Cynghorydd Norah Clarke
- Ceidwadwyr (8) – Y Cynghorydd Tom Giffard
- Plaid Cymru (3) – Y Cynghorydd Malcolm James
- Annibynwyr Llynfi (3) – Y Cynghorydd Ross Penhale-Thomas
Dewisodd tri chynghorydd – Ken Watts, Jeff Tildesley a Julia Williams – beidio ag ymuno ag unrhyw grŵp.
Nid yw hi’n hawdd gwasanaethu mewn unrhyw swydd fel aelod etholedig, ac fel mae pob un ohonom yn gwybod, mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod ymhlith yr anoddaf os nad yr anoddaf y mae’r cyngor wedi gorfod eu hwynebu erioed.
Ond pa bynnag heriau sydd wedi codi, rydym ni wedi wynebu pob un ohonyn nhw, ac rydym ni’n parhau i wneud hynny gyda phenderfynoldeb ac mewn modd unedig ar draws y Siambr, i gefnogi ein cymunedau lleol hyd eithaf ein gallu.
Mae cyni cenedlaethol diddiwedd yn parhau, a byddwn ninnau’n parhau i weithio gyda’n staff rhagorol i ymdrechu i ddarparu gwasanaethau hanfodol o fewn cyd-destun adnoddau sy’n prinhau’n barhaus.
Cynghorydd Huw David
“Mae’n rhaid i ni arbed dros £30 miliwn yn ystod y pedair blynedd nesaf, felly bydd llawer o’r penderfyniadau y mae’n rhaid i ni eu gwneud yn amhoblogaidd, ond byddwn yn eu gwneud â phwyslais cadarn ar realiti ein hamgylchedd newidiol, ac ar ddiogelu ein gwasanaethau mwyaf hanfodol a’n dinasyddion mwyaf agored i niwed.”
I gael rhagor o fanylion am aelodau etholedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ewch i’r tudalennau ‘Democratiaeth ac Etholiadau’.