Cadarnhau cyllid gwyrdd ar gyfer Pentref Llesiant Sunnyside
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 10 Chwefror 2021
Mae cyllid wedi cael ei gadarnhau ar gyfer amrywiaeth o nodweddion gwyrdd yn natblygiad Pentref Llesiant Sunnyside.
Amlinellwyd mewn adroddiad a gafodd ei gymeradwyo gan Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ei gyfarfod ddydd Mawrth 9 Chwefror, bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllid o £315,268 ar gyfer y nodweddion drwy ei gynllun grant Trawsnewid Trefi - Seilwaith Gwyrdd a Bioamrywiaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau: "Mae seilwaith gwyrdd yn elfen hanfodol o gysyniad y Pentref Llesiant. Bydd prif nodweddion yn natblygiad Sunnyside yn cynnwys plannu tua 150 o goed newydd, ardal dyfu gymunedol, man chwarae naturiol, gwarchod a gofalu am goed presennol ac ardaloedd gwyrdd eraill.
“Nod adfywio'r safle proffil uchel hwn yng nghanol Pen-y-bont ar Ogwr yw cyfrannu at ddatblygu cymuned leol fywiog, gynaliadwy gyda mannau gwyrdd amlbwrpas, a chysylltu â chynlluniau datgarboneiddio'r cyngor yn ogystal â nodau prif gynllun canol tref Pen-y-bont ar Ogwr."
Mae cynllun Pentref Llesiant Sunnyside, sydd werth £23m, yn cael ei ddatblygu gan Asiantaeth Tai Linc Cymru, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd yn darparu datblygiad defnydd cymysg newydd, ar safle Swyddfeydd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr a ddymchwelwyd, a chyn safle’r Llys Ynadon, yn cynnwys 59 o gartrefi fforddiadwy, canolfan gofal iechyd gydag ystafelloedd ymgynghori a thriniaeth, practis meddygon teulu, uned ddeintyddol arbenigol, fferyllfa, a gwaith cysylltiedig gan gynnwys tirlunio a seilwaith.
Dywedodd Richard Hallett, Rheolwr Datblygu yn Linc: "Pan gychwynnon ni gynllunio Pentref Llesiant Sunnyside, roedd cynnwys mannau gwyrdd yn flaenoriaeth.
“Trwy ymgorffori seilwaith gwyrdd, fel yr ardal chwarae naturiol ac ardal dyfu gymunedol, rydym yn gobeithio gwella’r ardal er mwynhad a llesiant tenantiaid y dyfodol, a staff a defnyddwyr gwasanaeth y ganolfan iechyd.
“Mae cefnogaeth y cyngor ar gyfer yr amcan hwn yn dangos eu hymrwymiad i droi dyhead yn gyflawniad ac rydym yn edrych ymlaen at weld y buddsoddiad blaengar hwn cael ei wireddu ym Mhentref Llesiant Sunnyside.”
Nawr, bydd y Cyngor yn dechrau cytundeb ariannol gyda Linc Cymru er mwyn darparu elfennau gwyrdd y datblygiad.