Cadarnhau cyfyngiadau Covid-19 pellach ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Llun 21 Medi 2020
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd ymyriadau newydd yn cael eu cyflwyno ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o 6pm nos Fawrth 22 Medi ymlaen i helpu i atal yr achosion cynyddol o’r coronafeirws rhag lledaenu ymhellach.
Mae’r cyhoeddiad yn dilyn cynnydd sydyn mewn achosion positif yn y fwrdeistref sirol – i fyny o 17 y cant i 37.4 y cant mewn llai nag wythnos – heb unrhyw ffynonellau clwstwr amlwg a all esbonio pam mae hyn yn digwydd.
Mae ymyriadau tebyg yn eu lle eisoes yng Nghaerffili a Rhondda Cynon Taf, ac maent wedi’u cadarnhau hefyd ar gyfer Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Chasnewydd.
Er y bydd y gofynion yn cael eu hadolygu’n rheolaidd, ni fydd aelwydydd estynedig yn gallu ffurfio mwyach, ac ni fydd y trigolion yn gallu gadael neu aros o’r ardal heb esgus rhesymol.
Bydd rhaid i’r trigolion weithio o gartref os yw hynny’n bosib, ac ni fydd pobl o’r tu allan i’r fwrdeistref sirol yn gallu dod iddi heb esgus rhesymol. Er y bydd rhaid i dafarndai ac eiddo trwyddedig aros ar gau rhwng 11pm a 6am, bydd busnesau ac ysgolion yn parhau ar agor gyda mesurau diogelu priodol yn eu lle.
Gydag ymweliadau dan do ac awyr agored â chartrefi gofal wedi’u gohirio dros dro eisoes, mae’r cyngor yn rhagweld newid pellach i’r cyfarwyddyd swyddogol ar y defnydd o fasgiau a gorchuddion wyneb drwy eu gwneud yn orfodol ar gludiant ysgolion uwchradd.
Yn dilyn cynnydd sydyn a pharhaus mewn achosion sy’n cael eu cadarnhau, yn anffodus mae ymyriadau pellach yn angenrheidiol nawr er mwyn helpu i reoli lledaeniad y coronafeirws ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r cyngor a’i bartneriaid wedi gofyn droeon i’r gymuned ddod at ei gilydd drwy ddilyn cyfres sylfaenol o reolau, ond mae’n glir bod camau gweithredu llymach yn angenrheidiol nawr ac maent, er nad ydynt yn gyfyngiadau symud llawn, yn ceisio cyfyngu ar ledaeniad y feirws. Mae’n rhaid i bawb ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr helpu drwy gadw at y rheolau am wisgo masgiau, golchi dwylo, defnyddio diheintyddion a chadw pellter cymdeithasol er mwyn atal y feirws rhag lledaenu ymhellach.
“Mae hefyd yn bwysicach nag erioed i bobl osgoi teithio i Borthcawl ac ymgynnull mewn niferoedd mawr y penwythnos yma gan fod yr Ŵyl Elvis flynyddol wedi cael ei chanslo. Mae’r rheolau yma yn eu lle i’ch gwarchod chi, eich teulu a’ch ffrindiau. Byddant yn cael eu gorfodi gan y cyngor, y Cydwasanaethau Rheoleiddiol a Heddlu De Cymru, a byddant yn cael eu hadolygu’n rheolaidd ond, yn y pen draw, mae eu llwyddiant yn dibynnu ar sut mae’r trigolion yn dewis ymddwyn yn ystod y dyddiadau a’r wythnosau sydd i ddod. Byddwn wrth gwrs yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddychwelyd i normal cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny, ond dylem fod yn glir iawn hefyd, os na fydd y cynnydd mewn achosion positif yn dechrau gostwng, bydd rhaid ystyried camau gweithredu pellach er mwyn gwarchod trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Arweinydd y Cyngor Huw David
- Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyfres o Gwestiynau Cyffredin ar gael – gallwch edrych ar y rhain drwy fynd i’r dudalen coronafeirws ar wefan Cymru