Cabinet yn ystyried cynnig ariannol ar gyfer Cosy Corner
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 15 Hydref 2021
Bydd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael cyfarfod yr wythnos nesaf i ystyried cynnig ariannol allai helpu i drawsnewid y Cosy Corner ym Mhorthcawl a chreu cyfleusterau cymunedol newydd ar y safle poblogaidd ger y môr.
Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cynnig gwerth £1m, ac os caiff ei dderbyn gan y Cabinet ar 19 Hydref, bydd yn dod â chyfanswm yr arian sydd ar gael i’r prosiect i £2.1m.
Mae’r safle angen gwaith brys ar ôl i gontractwyr a oedd yn gweithio ar brosiect y ganolfan forol ei adael, a byddai’n elwa o amrywiaeth o gyfleusterau newydd.
Mae'r cyfleusterau hyn yn cynnwys adeilad cerrig a gwydr sy’n cynnwys lleoliadau sy’n addas ar gyfer busnesau newydd a masnachol, man cyfarfod newydd at ddefnydd y gymuned, sgwâr parêd ar gyfer Cadetiaid y Môr, swyddfa ar gyfer meistr yr harbwr yn ogystal â chyfleusterau newid i ddefnyddwyr y marina cyfagos.
Os bydd cyllid yn caniatáu, mae gan y cyngor hefyd gynlluniau ar waith i osod ardal chwarae i blant a thirlunio newydd, seddau cyhoeddus a strwythur canopi sy'n gallu darparu cysgod awyr agored cyfforddus rhag y glaw a'r haul.
Yn ogystal â chefnogi cynlluniau parhaus y cyngor ar gyfer datblygu Llyn Halen a'r ardaloedd promenâd, bwriedir i'r cynlluniau ar gyfer Cosy Corner ategu prosiectau adfywio eraill fel y marina newydd, amddiffynfeydd môr newydd, Adeilad Jennings a adferwyd yn ddiweddar, gwelliannau sydd i ddod i forglawdd y dwyrain a mwy.
- Bydd y Cabinet yn cyfarfod i drafod y cynnig ariannol am 2.30pm ddydd Mawrth 19 Hydref.