Cabinet yn cytuno i archwilio cynlluniau newydd ar gyfer Cosy Corner
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 16 Rhagfyr 2020
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn trafodaethau â Croeso Cymru ynglŷn â chynlluniau a allai adfer Cosy Corner ym Mhorthcawl a darparu ystod o gyfleusterau cymunedol newydd ar y safle.
Yn dilyn cyfarfod y Cabinet ar ddydd Mawrth 15 Rhagfyr, mae cynigion wedi cael eu cymeradwyo a fydd yn cyflwyno'r cyfleusterau newydd yn defnyddio cyllid y cyngor a chefnogaeth ychwanegol gan raglen Cyrchfannau Denu Twristiaeth Llywodraeth Cymru.
Yn ddiweddar, cafodd Cosy Corner ei adael yn wag gan gontractwyr yn dilyn diddymiad gwirfoddol sefydliad cymunedol a oedd yn ceisio sefydlu datblygiad canolfan forol ar y safle, sydd drws nesaf i'r marina ger goleudy eiconig a morglawdd dwyreiniol Porthcawl.
Ymhlith yr opsiynau posib ar gyfer sut y gellid defnyddio'r safle mae sefydlu ardal chwarae i blant o safon uchel i ategu atyniadau cyfagos, ardal berfformio yn yr awyr agored newydd gyda seddi a thirlunio, cyfleusterau at ddefnydd sefydliadau cymunedol megis Cadetiaid y Môr, safle newydd yn addas ar gyfer mentrau manwerthu bach a busnesau newydd, a chyfleusterau storio a newid at ddefnydd defnyddwyr y marina cyfagos.
Mae'r ceisiadau hefyd yn ceisio mynd i'r afael â chyflwr presennol y safle, sydd wedi'i gloddio'n rhannol a gyda sylfeini a gwaith arall wedi'i gwblhau cyn i gontractwyr y ganolfan forol ei adael yn wag.
Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio: "Mae swyddogion y Cyngor eisoes wedi cwrdd â Croeso Cymru, sydd wedi cadarnhau bod cyfle yn bodoli i ymgeisio am gyllid i gefnogi'r cynigion.
"Rhaid cydnabod y bydd unrhyw gyllid ar gael yn sylweddol is na'r hyn fyddai wedi bod yn ofynnol ar gyfer datblygiad ar raddfa'r ganolfan forol wag, ac y bydd rhaid sicrhau, gwario a hawlio'r arian o fewn amserlen fer iawn.
"Tra mae hyn yn golygu bod angen gwirioneddol i gynnal disgwyliadau realistig ynglŷn â beth ellir ei gyflawni, rydym yn parhau'n uchelgeisiol iawn yn ein cynlluniau ar gyfer Cosy Corner.
"Fel y 'plyg yn y penelin' ardal glan y môr Porthcawl, mae Cosy Corner yn ffurfio rhan eiconig o'r dref, ac mae'n ganolbwynt naturiol i ymwelwyr a phreswylwyr.
"Er y byddai wedi bod yn hyfryd pe bai'r prosiect canolfan forol dan arweiniad y gymuned wedi cael ei wireddu, mae'n rhaid i ni fod yn realistig ynglŷn â beth ellir ei gyflawni ar y safle yn defnyddio cronfeydd cyfyngedig ac o fewn yr amserlen fer.
"Rydym eisiau adeiladu ar lwyddiant datblygiadau adfywio eraill yn y dref, megis y Ganolfan Chwaraeon Dŵr, marina newydd, amddiffynfeydd môr newydd a chaffis a bwytai newydd sydd wedi helpu i alluogi'r cyhoedd i ddefnyddio'r Adeilad Jennings cyfagos unwaith eto.
"Hoffem hefyd sicrhau bod Cosy Corner yn parhau i fod yn dir cyhoeddus, ac yn ategu nid yn unig datblygiadau eraill o fewn yr ardal glan y môr, ond ein cynlluniau adfywio arfaethedig ar gyfer y Llyn Halen a'r ardaloedd promenâd."
Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd Hywel Williams: "Tra fy mod yn rhannu'r un siom ynglŷn â'r cynlluniau ar gyfer canolfan forol dan arweiniad y gymuned, rwyf hefyd yn cefnogi'r camau mae'r cyngor yn eu cymryd i sicrhau y gellir defnyddio Cosy Corner ar gyfer rhywbeth a fydd yr un mor eiconig a phoblogaidd gyda phreswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd, ac a fydd yn gwasanaethu pobl Porthcawl llawn cystal."
Bydd gwaith yn cael ei wneud nawr ar ddatblygu cais am gyllid i Croeso Cymru, a bydd diweddariad arall yn cael ei roi i'r Cabinet.